Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Osian Gwyn Gruffydd

Mater o Bwys 1

Farming / Ffermio

Mater o Bwys 2

Welsh language / Y Gymraeg

Mater o Bwys 3

Education / Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

Whilst other candidates may give you questions I want to come up with answers. As your youth parliament member my main priorities will be:
1. Free bus and rail travel for young people
2. Make the provision of sport and leisure facilities for young people in their community a requirement and not a choice.
3. Ensure a healthy and secure source of food by making sure farmers receive a fair price for the food they produce.

With your support we can make sure young people's voices are heard. To ensure a better future for the youth of Wales please support me.

Diolch.

DATGANIAD YMGEISYDD

Tra mai cwestiynau, efallai, sydd gydag ymgeiswyr eraill ichi, ceisio atebion yw fy nod innau. Fel eich aelod o’r Senedd Ieuenctid, y canlynol fydd fy mhrif flaenoriaethau:
1. Teithiau bws a thrên am ddim i bobl ifanc.
2. Ei gwneud yn ofynnol darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden i bobl ifanc yn eu cymuned, yn hytrach na bod yn ddewisol.
3. Sicrhau ffynhonnell iach a diogel o fwyd drwy wneud yn siŵr bod ffermwyr yn cael pris teg am y bwyd y maent yn ei gynhyrchu.

Gyda'ch cefnogaeth chi, fe allwn ni wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Er mwyn sicrhau dyfodol gwell i ieuenctid Cymru, cefnogwch fi.

Diolch.