Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Liberty Hutchinson

Mater o Bwys 1

Mental Health Services/Gwasanaethau iechyd meddwl

Mater o Bwys 2

Housing/Tai

Mater o Bwys 3

Environment/ Yr amgylchedd

DATGANIAD YMGEISYDD

I would like to be a Welsh Youth Parliament Member because I am passionate about making a change to young peoples lives all over Wales. I would consult with young people by listening to the problems they are most passionate about and making sure every opinion and need is taken into account. I believe people should vote for me because I am passionate and determined to make a difference and I will fight for however long it takes. I am excellent at debating and enhancing my point of view in any situation. I am hard working and will not give up on my dreams and what I believe needs to change.

DATGANIAD YMGEISYDD

Hoffwn i fod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod i’n angerddol am wneud newid i fywydau pobl ifanc ledled Cymru. Byddwn i’n ymgynghori â phobl ifanc drwy wrando ar y problemau maen nhw fwyaf angerddol amdanyn nhw a sicrhau bod pob barn ac angen yn cael ystyriaeth. Dw i’n credu y dylai pobl bleidleisio drosof i oherwydd fy mod i’n angerddol ac yn benderfynol i wneud gwahaniaeth a bydda i’n brwydro faint bynnag o amser mae’n cymryd. Dw i’n ardderchog ar ddadlau a hyrwyddo fy safbwynt mewn unrhyw sefyllfa. Dw i’n gweithio’n galed a fydda i ddim yn rhoi’r gorau ar fy mreuddwydion a beth mae angen ei newid yn fy marn i.