Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Rhys Tomos Rowlandson

Mater o Bwys 1

Political education in schools/Addysg wleidyddol mewn ysgolion

Mater o Bwys 2

More help for disabled children/Mwy o help i blant anabl

Mater o Bwys 3

improved Welsh language lessons/Gwersi Cymraeg gwell

DATGANIAD YMGEISYDD

I feel passionate about issues that affect young people in wales, And want to help them to get their voices heard. I will visit local schools and hold sessions with school councils to find issues that they feel most strongly about. I think people should vote for me because having already completed one term as a welsh youth parliament member I understand how to make real change. Because I care about the youth of wales. I belive i am a really good listener and take account of all sides, so I am able to represent everybody fairly. I am confident in speaking to people from all walks of life. And this is why I belive I would make a good Welsh youth parliament member.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy’n teimlo’n angerddol am faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru, ac rwyf am eu helpu i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Byddaf yn ymweld ag ysgolion lleol a chynnal sesiynau gyda chynghorau ysgol i ddod o hyd i faterion y maent yn teimlo gryfaf yn eu cylch. Rwy'n meddwl y dylai pobl bleidleisio i mi oherwydd, ar ôl cwblhau un tymor yn barod fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, rwy'n deall sut i wneud newid go iawn, oherwydd mae ieuenctid Cymru'n bwysig i mi. Rwy'n credu fy mod yn wrandäwr da iawn ac yn ystyried pob ochr, felly rwy'n gallu cynrychioli pawb yn deg. Rwy'n hyderus wrth siarad â phobl o bob cefndir. A dyma pam rwy'n credu y byddwn i'n aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru.