Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Gwilym Morus
A secure future for farmers/Dyfodol sicr i ffermwyr
Fairer, kinder housing policy/Polisi tai mwy teg a charedig
Future for the Welsh language/Dyfodol i'r Gymraeg
For years, I have seen Ceredigion and the rest of West Wales go unheard and underrepresented nationally. To me, this is an absolute travesty, and is why I am running to represent Ceredigion in the Welsh Youth Parliament. First and foremost, as your representative, I will push for a secure, green future for our farmers, whose valuable contributions to our society are oft ignored. I will also push for a fairer, kinder housing policy, as I believe that we have the resources to end homelessness now, and it's laughable, frankly, that we haven't. Finally, I will push to ensure a healthy future for the Welsh language, and ensure that we hit the target of one million Welsh speakers by 2050.
In my personal life, I was a member of Llanw, the company that represented the UK in the 2024 Gen-E Conference, the largest entrepreneurship festival in Europe, where I helped present our product, a recipe book focused on food waste, which shows my speaking skills and my commitment to green policies.
Ers blynyddoedd, rwyf wedi gweld diffyg gwrandawiad a chynrychiolaeth yn genedlaethol i Geredigion a gweddill Gorllewin Cymru. I mi, mae hyn yn drychineb lwyr, a dyna pam rwy’n sefyll i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Cymru. Yn bennaf oll, fel eich cynrychiolydd, byddaf yn gwthio am ddyfodol gwyrdd, diogel i’n ffermwyr, sy’n aml yn gweld eu cyfraniadau gwerthfawr i’n cymdeithas yn cael eu hanwybyddu. Byddaf hefyd yn gwthio am bolisi tai mwy teg a charedig, gan fy mod yn credu bod gennym yr adnoddau i roi terfyn ar ddigartrefedd nawr, ac yn wir mae’n chwerthinllyd nad ydym wedi gwneud hynny. Yn olaf, byddaf yn gwthio i sicrhau dyfodol iach i’r Gymraeg, a sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn fy mywyd personol, roeddwn i’n aelod o Llanw, y cwmni a gynrychiolodd y DU yng Nghynhadledd Gen-E 2024, yr ŵyl entrepreneuriaeth fwyaf yn Ewrop, lle helpais i gyflwyno ein cynnyrch, sef llyfr ryseitiau yn canolbwyntio ar wastraff bwyd, sy'n dangos fy sgiliau siarad a fy ymrwymiad i bolisïau gwyrdd.