Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Gwilym Wyn Jones

Mater o Bwys 1

Improving the environment / Gwella’r Amgylchedd

Mater o Bwys 2

Improving everybody’s health and fitness / Gwella Iechyd a Ffitrwydd pawb

Mater o Bwys 3

Solving the holiday home crisis / Datrys Argyfwng Tai haf

CANDIDATE STATEMENT

My name is Gwilym and I live in Ceredigion. I’m eager to become a Member of the Youth Parliament because I believe that it is important that young people are involved in politics.
I believe that I can make a contribution because of the skills and experience that I have.
I am fluent in Welsh and English.
I have been a member of the School Parliament for two years, and we have arranged events such as litter-picks as part of our bid to gain a bronze Eco award. We convinced Crymych Council to award funds to create mor leisure spaces for young people. I also chaired a panel that interviewed prospective teachers.
I would like to be a voice in favour of health and fitness, particularly grass-roots rugby. I play rugby for my local team and I am a member of Surf Life-Saving Poppit. This has helped me to understand the importance of teamwork, listening to others and expressing my opinion. I believe that sport is a good way of socialising and helps to develop character.
I am concerned about the future of my area and I want young people from Ceredigion to be able to buy homes here.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Gwilym ac rydw i’n byw yng Ngheredigion. Rydw i’n awyddus i fod yn aelod o’r senedd oherwydd rwy’n credu ei fod yn bwysig i bobl ifanc fod yn rhan o’r byd gwleidyddol.
Rwy’n credu y gallaf wneud cyfraniad oherwydd y sgiliau a’r profiad sydd gennyf. Rydw i'n rhugl yn y Gymraeg ar Saesneg. Rydw i wedi bod ar Senedd yr Ysgol am ddwy flynedd ac rydym wedi trefnu digwyddiadau fel dyddiau hel sbwriel fel rhan o’n hymgais i ennill gwobr efydd Eco. Gwnaethom ddylanwadu ar Cyngor Crymych i roi arian i greu mwy o lefydd hamdden i bobol ifanc. Cadeiriais banel oedd yn cyfweld darpar athrawon.
Hoffwn fod yn llais dros iechyd a ffitrwydd, ac yn arbennig rygbi ar lawr gwlad. Rydw i'n chwarae rygbi i fy nhim lleol ac yn aelod o glwb Surf Life Saving Poppit ac mae hyn yn helpu gyda deall pwysigrwydd gwaith tim, gwrando ar eraill a mynegi barn. Credaf fod chwaraeon yn ffordd dda o gymdeithasu a datblygu cymeriad.
Rwy’n poeni am ddyfodol fy mro ac am weld pobl ifanc leol yn prynu tai yma.