Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Leland Menhenott
Mental Health/Iechyd meddwl
Education/Addysg
Farming/Ffermio
Hi! My name is Leland and I am standing for WYP in Ceredigion. Following my extensive work with young people in the area, I would like to stand as a voice for the youth and advocate for their concerns as much as mine. We are seeing a huge gap in support for children's mental health and this must be resolved. Farming is key in Wales, and the young farmers who contribute must be heard and valued for their efforts. As a young carer, I can understand the several struggles mentally that a young person faces, and I will be a voice for every young person in Ceredigion, no matter what. Know that my 3 key issues do not mean I will only focus on them, and I will fight for every single issue. I have travelled all over Ceredigion to hold sessions with young people, and I hear every single voice.
Helo! Fy enw i yw Leland a dw i’n sefyll fel aelod SIC yng Ngheredigion. Yn dilyn fy ngwaith helaeth gyda phobl ifanc yn yr ardal, hoffwn sefyll fel llais dros bobl ifanc ac eirioli dros eu pryderon cymaint â fy mhryderon i. Rydyn ni’n gweld bwlch enfawr mewn cymorth ar gyfer iechyd meddwl plant ac mae rhaid i hyn gael ei ddatrys. Mae ffermio’n allweddol yng Nghymru, ac mae rhaid i’r ffermwyr ifanc sy’n cyfrannu gael eu clywed a’u gwerthfawrogi am eu hymdrechion. Fel gofalwr ifanc, dw i’n gallu deall y trafferthion meddyliol y mae person ifanc yn eu hwynebu, a bydda i’n llais i bob person ifanc yng Ngheredigion, ni waeth beth. Dylech chi wybod nad yw fy 3 mater allweddol yn golygu y bydda i’n canolbwyntio arnyn nhw yn unig, a bydda i’n dadlau dros bob un mater. Dw i wedi teithio ar draws Ceredigion i gynnal sesiynau gyda phobl ifanc, a dw i'n clywed pob un llais.