Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Ianto James

Mater o Bwys 1

The Welsh language / Y Gymraeg

Mater o Bwys 2

Healthcare / Gofal Iechyd

Mater o Bwys 3

Housing / Tai

CANDIDATE STATEMENT

My name is Ianto, I’m 15 years old and I live in Tregaron. I am very interested in politics and it would be a privilege to serve as a Member of the Welsh Youth Parliament.
I am a member of Tregaron Young Farmers’ Club, and I am deputy head pupil at Ysgol Henry Richard. I have been elected to the school council every year for the past six years. I enjoy speaking to everybody and take their concerns to heart. I am also a good listener. It would be a privilege to represent the people of my area and I would do my very best on their behalf. I am passionate about ensuring that every part of Wales, including rural areas, has healthcare provision of the very highest quality. The Welsh language is also very important to me and I am a Welshman to the core. I hope to go on to university to study politics in a few years’ time, and having the opportunity to serve as a Member of the Welsh Youth Parliament would be a very special experience that I would treasure a great deal.

DATGANIAD YMGEISYDD

Ianto ydw i, rwy’n 15 oed ac yn byw yn Nhregaron. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth a byddai cael bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn fraint.
Rwy’n aelod o glwb ffermwyr ifanc Tregaron ac rwy’n ddiprwy brif ddisgybl yn Ysgol Henry Richard. Rwyf wedi cael fy ethol ar gyngor yr ysgol bobl blwyddyn yn olynol ers y chwe mlynedd diwethaf. Rwy’n mwynhau siarad gyda phawb ac yn cymryd pryderon pawb i galon. Rwyf hefyd yn wrandawr da.Byddai’n fraint cael cynrychioli pobl fy ardal i a byddwn yn gwneud fy ngorau glas drostynt. Rwy’n angerddol dros sicrhau fod pob ardal yng Nghymru gan gynnwys ardaloedd gwledig yn cael y gofal iechyd o’r safon uchaf. Mae’r iaith Gymraeg hefyd yn bwysig iawn i mi ac rwy’n Gymro i’r carn. Rwy’n gobeithio mynd ymlaen i’r Brifysgol i astudio Gwleidyddiaeth mewn rhai blynyddoedd a byddai cael bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn brofiad arbennig ac yn un y byddwn yn ei drysori yn fawr.