Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Charlie Bryn David Hughes

Mater o Bwys 1

Mental Health Services/Gwasanaethau iechyd meddwl

Mater o Bwys 2

Climate Change/Newid Hinsawdd

Mater o Bwys 3

Reduce smoking with the youth/Lleihau ysmygu ymhlith phobl ifanc

DATGANIAD YMGEISYDD

I believe that I possess leadership skills, I’m dedicated to succeeding and think it’s vitally important to encourage inclusivity. I am passionate about representing the voices of young people from all backgrounds across Wales, whilst understanding the diverse challenges faced by my peers. I actively engage within the school council meetings at the PRU and hear the concerns of young people. During discussions, I believe I possess good listening skills and I’m open to different perspective and can communicate effectively when key issues arise. I am willing to advocate for key issues, such as mental health, climate change and education and believe that I have strong problem-solving skills and a sense of responsibility, which will allow me to further develop my team-work skills when working closely with other representatives to bring about positive change. I am passionate about ensuring that my peers’ voices shape the future of Wales and hope to lead with empathy and a commitment.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy'n credu bod gen i sgiliau arwain, rwy'n ymroddedig i lwyddo ac rwy'n meddwl ei bod yn hanfodol bwysig annog cynhwysiant. Rwy’n angerddol am gynrychioli lleisiau pobl ifanc o wahanol gefndiroedd ledled Cymru, tra’n deall yr heriau amrywiol y mae fy nghyfoedion yn eu hwynebu. Rwy’n cymryd rhan weithredol yng nghyfarfodydd cyngor yr ysgol yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion ac yn clywed pryderon pobl ifanc. Yn ystod trafodaethau, rwy'n credu bod gen i sgiliau gwrando da ac yn agored i wahanol safbwyntiau, ac rwy’n gallu cyfathrebu'n effeithiol pan fydd materion allweddol yn codi. Rwy’n barod i eiriol dros faterion allweddol fel iechyd meddwl, newid hinsawdd ac addysg, ac yn credu bod gen i sgiliau datrys problemau cryf ac ymdeimlad o gyfrifoldeb a fydd yn caniatáu imi ddatblygu fy sgiliau gwaith tîm ymhellach wrth weithio’n agos gyda cynrychiolwyr eraill i sicrhau newid cadarnhaol. Rwy’n frwd dros sicrhau bod lleisiau fy nghyfoedion yn llunio dyfodol Cymru ac yn gobeithio arwain gydag empathi ac ymroddiad.