Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Harri Evans

Mater o Bwys 1

The Agriculture industry/Y diwydiant amaethyddiaeth

Mater o Bwys 2

Voting for young people/Pleidleisio i bobl ifanc

Mater o Bwys 3

Transport in rural communities/Trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig

CANDIDATE STATEMENT

I believe I’m a suitable candidate to be a Youth Parliament member as I have relevant qualities for the role, such as team work skills, bilingualism, understanding the importance of expressing your voice, as well as many more. I have gained and use these qualities within various roles, such as being chairperson for forums in school, representing the forum in the school sennet, representing my school within the Ceredigion Youth Council, Volunteering within my local communities during the general election, and many more. I am Head Prefect at Ysgol Bro Pedr, and I can certainly say that these qualities are important in my everyday life, but I’m keen to gain more qualities and skills.
I’d like to be a youth member because I strongly believe in the importance of expressing your voice. As a young person from a rural Welsh community, I interact a lot with local people, and I’m well aware of the problems we’re facing, and I feel strongly about them. I would like to be our local voice.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy’n credu fy mod i’n ymgeisydd addas i fod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid gan fod gen i rinweddau perthnasol ar gyfer y rôl, fel sgiliau gwaith tîm, dwyieithrwydd, dealltwriaeth o bwysigrwydd codi eich llais, a llawer mwy. Rwyf wedi ennill a defnyddio’r rhinweddau hyn mewn rolau amrywiol, fel bod yn gadeirydd ar fforymau yn yr ysgol, cynrychioli’r fforwm yn senedd yr ysgol, cynrychioli fy ysgol fel rhan o Gyngor Ieuenctid Ceredigion, gwirfoddoli yn fy nghymuned leol yn ystod yr etholiad cyffredinol, a llawer mwy. Fi yw Prif Swyddog Ysgol Bro Pedr, a gallaf ddweud yn sicr fod y rhinweddau hyn yn bwysig yn fy mywyd bob dydd, ond rwy’n awyddus i ennill mwy o rinweddau a sgiliau.
Hoffwn fod yn aelod ieuenctid oherwydd rwy'n credu'n gryf ym mhwysigrwydd codi eich llais. Fel person ifanc o gefn gwlad Cymru, rwy'n rhyngweithio llawer gyda phobl leol, yn ymwybodol iawn o'r problemau sy'n ein hwynebu, ac yn teimlo'n gryf yn eu cylch. Hoffwn fod yn llais lleol i ni.