Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Environment / Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

I aspire to become a Welsh Youth Parliamentary Member because I am deeply committed to ensuring that the voices of young people in Wales are heard and valued. I believe that these voices deserve a platform where they can influence decisions that affect their lives and futures.
My passion for youth advocacy stems from my experiences mentoring students, where I have seen the positive impact of empowering young people to express their opinions and take an active role in their communities. By becoming a member of the Welsh Youth Parliament, I aim to amplify these voices on a national level, ensuring that the concerns and aspirations of Wales’+ youth are represented in the political arena.
I am particularly interested in addressing issues such as mental health, education, and environmental sustainability, which are crucial to the well-being and future of young people in Wales. I believe that by working together, we can create meaningful change and build a brighter future for all.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i wedi ymrwymo’n llwyr i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc Cymru yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. Dw i’n credu bod y lleisiau hyn yn haeddu platfform lle maen nhw’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau fydd yn effeithio ar eu bywydau a’u dyfodol.
Mae fy angerdd dros eirioli ieuenctid yn deillio o fy mhrofiadau yn mentora myfyrwyr, lle dw i wedi gweld effaith bositif grymuso pobl ifanc i fynegi barn a chwarae rhan actif yn eu cymunedau. Drwy ddod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, dw i’n bwriadu codi’r lleisiau hyn i lefel genedlaethol, gan wneud yn siŵr bod pryderon a dyheadau pobl ifanc Cymru yn cael eu cynrychioli ar lwyfan wleidyddol. Mae gen i ddiddordeb penodol mewn datrys problemau megis iechyd meddwl, addysg a chynaliadwyedd amgylcheddol, sy’n hanfodol i les a dyfodol pobl ifanc yng Nghymru. Drwy weithio gyda’n gilydd, dw i’n credu y gallwn ni greu newid ystyrlon a chreu dyfodol mwy llewyrchus i bawb.