Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Child support / Cymorth i Blant

Mater o Bwys 2

Mental Capacity / Capasiti Meddyliol

Mater o Bwys 3

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

Hi, I would like to be a part of WYP to take advantage of the unique opportunities I will be extended.
I believe young individuals should have an abundance of options for support in significant decisions in their life. Knowing where to get this support should be common knowledge, not a deep dive on google. Speaking from experience, privacy is an issue that needs greater awareness. Receiving unbiased advice with no strings attached should be a walk away, especially in schools.
Stress is a big problem when it come to GCSEs, and there is help in school that can advocate for that. However, combining this with social stress can reach beyond mental capacity. When this happens, I want to build on the services that can help young people manage.
I want to be the voice that people don't have, to listen to them and help them. I have been described as clockwork, meaning I never stop or complain. I will always keep going, pursuing the change for what I believe in.
Thank you for listening,
Grace

DATGANIAD YMGEISYDD

Helo, dw i eisiau bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn cymryd rhan yn y cyfleoedd unigryw fydd ar gael i mi. Dw i’n credu bod angen i bob person ifanc gael llawer o opsiynau cymorth gyda phenderfyniadau pwysig mewn bywyd. Dylai pawb wybod ble i gael y cymorth, nid gorfod chwilio ar Google. Yn siarad o brofiad, mae preifatrwydd yn fater sydd angen mwy o ymwybyddiaeth. Dylai derbyn cyngor diduedd fod yn rhwydd, yn enwedig mewn ysgolion. Mae straen yn broblem fawr pan mae’n dod i’r TGAU, ac mae cymorth yn yr ysgol sy’n gallu helpu. Ond os bydd y straen yn cael ei gyfuno gyda straen cymdeithasol, mae’n mynd y tu hwnt i allu meddyliol. Pan fydd hyn yn digwydd dw i eisiau datblygu gwasanaethau sy’n gallu helpu pobl ifanc ymdopi.
Dw i eisiau bod yn llais i bobl, i wrando arnyn nhw a helpu nhw. Dw i wedi cael fy nisgrifio ‘fel cloc’ sy’n golygu nad ydw i fyth yn stopio na chwyno. Dw i’n dal ati bob tro, yn mynd ar ôl y newid dw i’n credu ynddo.
Diolch am wrando,
Grace