Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

No pylons/Dim peilonau

Mater o Bwys 2

Free public transport/Trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim

Mater o Bwys 3

More grants for fibre optic/Mwy o grantiau ar gyfer ffeibr optig

DATGANIAD YMGEISYDD

I am proud to call Wales my home and would be honoured to serve my constituency in the craft of political change and development shaped by the spirited voices of Wales's youth. Together with hard work and determination I believe we can bring political justice to our voice and revive the future of Wales and I promise to support your views through every step of the process. Our lives are shaped by the decisions of the Senedd, and I, just like you want my voice not just to be heard, but to be taken seriously, we want action, not words.
I have been involved in the eco committee, fund raisers in the local community and have a passion for problem solving and teamwork roles, as well as a particular interest in law and politics, I would greatly appreciate this prospect to further my understanding of this thrilling world of debate and democracy, and promise to spare no effort in the strive to bring forward the promises of my campaign to improve the opportunities and well-being of our lives.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy’n falch o alw Cymru yn gartref i mi a byddai’n anrhydedd gwasanaethu fy etholaeth yn y grefft o ddatblygu a newid gwleidyddol a luniwyd gan leisiau bywiog pobl ifanc Cymru. Gyda gwaith caled a natur benderfynol, credaf y gallwn ddod â chyfiawnder gwleidyddol i'n llais ac adfywio dyfodol Cymru, ac rwy'n addo cefnogi eich barn drwy bob cam o'r broses. Caiff ein bywydau eu llywio gan benderfyniadau’r Senedd, ac rwyf fi, yn union fel chi, am i’m llais nid yn unig gael ei glywed, ond i gael ei gymryd o ddifrif. Rydym eisiau gweithredu, nid geiriau.
Rwyf wedi bod yn ymwneud â’r pwyllgor eco a digwyddiadau codi arian yn y gymuned leol, ac mae gennyf angerdd am rolau datrys problemau a gwaith tîm, yn ogystal â diddordeb arbennig yn y gyfraith a gwleidyddiaeth. Byddwn yn gwerthfawrogi’r cyfle hwn yn fawr i wella fy nealltwriaeth o’r byd dadlau a democratiaeth cyffrous hwn. Rwy’n addo rhoi o’m gorau yn yr ymdrech i gyflwyno addewidion fy ymgyrch i wella cyfleoedd a llesiant ein bywydau.