Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Public transport services/Gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus

Mater o Bwys 2

The rapid decline of juvenile/Dirywiad cyflym ieuenctid

Mater o Bwys 3

Pylons through Tywi valley/Peilonau trwy ddyffryn Tywi

DATGANIAD YMGEISYDD

I want to be a Welsh Youth Parliament Member because I am passionate about several issues that are not being actively discussed. I'm friendly and approachable with connections throughout the school, have been a founder member of school clubs and have held leadership roles in the past. I have great communication skills and feel comfortable talking with anyone no matter the age as well as public speaking. I also have an active presence on social media with followers across Carmarthenshire and will use my platform to encourage connections to voice their opinions. I have also learnt an array of other skills from volunteering for local fund-raising events and as an active St Johns Ambulance member. I am also a great team player and have been a part of several sport teams. If you vote for me I will make sure your voice is heard!

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwyf am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn angerddol am sawl mater nad ydynt yn cael eu trafod yn weithredol. Rwy'n gyfeillgar ac yn hawdd siarad â mi, gyda chysylltiadau ar draws yr ysgol. Rwy’n un o sylfaenwyr clybiau'r ysgol ac rwyf wedi bod mewn rolau arwain yn y gorffennol. Mae gennyf sgiliau cyfathrebu gwych ac rwy'n teimlo'n gyfforddus yn siarad ag unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran, yn ogystal â siarad yn gyhoeddus. Mae gennyf hefyd bresenoldeb gweithredol ar y cyfryngau cymdeithasol gyda dilynwyr ledled Sir Gaerfyrddin, a byddaf yn defnyddio fy mhlatfform i annog cysylltiadau i leisio eu barn. Rwyf hefyd wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau eraill yn sgil gwirfoddoli ar gyfer digwyddiadau codi arian lleol ac fel aelod gweithgar o Ambiwlans Sant Ioan. Rwyf hefyd yn chwaraewr tîm gwych ac wedi bod yn rhan o sawl tîm chwaraeon. Os byddwch chi'n pleidleisio drosof i, byddaf yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed!