Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Rasmus Oitsalu
Improving Public Transport/Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus
Reducing litter/Lleihau sbwriel
Improving public spaces/Gwella mannau cyhoeddus
Wales is rife with problems and it can be hard to not feel apathetic seeing the state of our country sometimes, and so I feel that having a chance to give my effort to improve our nation - even in a small part - is an opportunity that I cannot ignore. If I were to be elected, I would seek to make small, feasible and realistic changes by consulting directly with the people in my community and with my peers. I took an interest in politics when I was very young, and that lead me down a path of learning and understanding the issues that grip Wales, and so I believe that if I were to be elected, I would have the ability to apply my knowledge to reach actual solutions that would require low government funding.
I aim to improve bus services through the use and expansion of bus priority traffic signals, reducing travel times using hardware that already exists. I would propose recycling incentives that exist in other European countries and I would push for better development of 'third' spaces.
Mae problemau’n rhemp yng Nghymru a gall fod yn anodd peidio â theimlo’n ddifater o weld cyflwr ein gwlad weithiau, ac felly teimlaf fod cael siawns i ymdrechu i wella ein cenedl – hyd yn oed mewn rhan fach – yn gyfle na allaf ei anwybyddu. Pe bawn i’n cael fy ethol, byddwn yn ceisio gwneud newidiadau bach, dichonadwy a realistig drwy ymgynghori’n uniongyrchol â’r bobl yn fy nghymuned a gyda’m cyfoedion. Roedd gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth pan oeddwn yn ifanc iawn, ac oherwydd hynny mi wnes i ddilyn ar hyd llwybr o ddysgu a deall y materion sy’n effeithio ar Gymru. Felly, credaf pe bawn yn cael fy ethol, byddai gennyf y gallu i ddefnyddio fy ngwybodaeth i ddod o hyd i atebion gwirioneddol a fyddai angen lefel isel o gyllid gan y llywodraeth.
Fy nod yw gwella gwasanaethau bysiau drwy ddefnyddio ac ehangu signalau traffig sy’n rhoi blaenoriaeth i fysiau, ac yn lleihau amser teithio gan ddefnyddio caledwedd sydd eisoes yn bodoli. Byddwn yn cynnig cymhellion ailgylchu sy'n bodoli mewn gwledydd Ewropeaidd eraill a byddwn yn pwyso am well datblygiad o ‘drydydd’ fannau.