Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Gwenllian Haf Rees
Affordable transport/Trafnidiaeth fforddiadwy
Education- life skills/Addysg-sgiliau bywyd
Environment/ Yr amgylchedd
I wish to be a WYP Member to advocate for improving education, tackling climate change and accessible transport.
I believe education, instead of being grade driven, needs to prepare young people for the real world such as teaching finance and budgeting.
I want to make young people more active in tackling climate change, such as promoting waste reduction. I am also eager to make public transport more affordable and accessible for young people to get to places such as school, work and leisure activities. This would mean young people get to participate in more opportunities.
I would like to represent Carmarthen East and Dinefwr because our voices need to be heard and I want to represent young people who believe their concerns are being overlooked. To keep in touch with my peers I will actively update social media and will have face-to-face chats and feedback sessions with local schools.
I am an approachable, Welsh-speaker who is passionate to make a difference in our community.
Dymunaf fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i ddadlau dros wella addysg, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a thrafnidiaeth hygyrch.
Rwy'n credu bod angen i addysg, yn hytrach na chanolbwyntio ar raddau, baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd go iawn fel addysgu cyllid a chyllidebu.
Rwyf am wneud pobl ifanc yn fwy gweithgar wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, megis hyrwyddo dulliau lleihau gwastraff. Rwyf hefyd yn awyddus i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy a hygyrch er mwyn i bobl ifanc gyrraedd lleoedd fel ysgolion, y gwaith a gweithgareddau hamdden. Byddai hyn yn golygu bod pobl ifanc yn cael cymryd rhan mewn mwy o gyfleoedd.
Hoffwn gynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oherwydd mae angen i’n lleisiau gael eu clywed ac rwyf am gynrychioli pobl ifanc sy’n credu bod eu pryderon yn cael eu hanwybyddu. Er mwyn cadw mewn cysylltiad â’m cyfoedion, byddaf yn mynd ati i ddiweddaru’r cyfryngau cymdeithasol a byddaf yn cael sgyrsiau wyneb yn wyneb ac yn cynnal sesiynau adborth gydag ysgolion lleol.
Rwy’n siarad Cymraeg, yn agos-atoch ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth yn ein cymuned.