Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

E-Cigarettes and 'Vapes'/E-Sigaréts a 'Fêps'

Mater o Bwys 2

Climate Change, Global Warming/Newid Hinsawdd, Cynhesu Byd-eang

Mater o Bwys 3

Poverty/Tlodi

DATGANIAD YMGEISYDD

Over the past few months, I’ve developed a strong interest in politics, especially in how it gives people a voice and creates change. Like many in my generation, I’ve often felt like a passive observer of recent political events. This made me question why young people can’t play a bigger role in shaping our future through politics. That’s when I found the Welsh Youth Parliament. I’m running because I believe young voices must be heard and my access to social media and my close connection to my community, both in and out of school, allow me to engage with young people and understand the issues that matter. I have a clear view of the challenges we face, from education and mental health to climate change and equality. What sets me apart is my practical mindset and commitment to finding real solutions. I’m not just here to point out issues, I want to help solve them. If elected, I will do my best to ensure our voices are heard and work towards positive change that benefits all of us.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi datblygu diddordeb cryf mewn gwleidyddiaeth, yn enwedig yn y ffordd mae'n rhoi llais i bobl ac yn creu newid. Fel llawer yn fy nghenhedlaeth i, rwyf yn aml wedi teimlo fel gwyliwr goddefol o ddigwyddiadau gwleidyddol diweddar. Gwnaeth hyn i mi gwestiynu pam na all pobl ifanc chwarae rhan fwy wrth lunio ein dyfodol drwy wleidyddiaeth. Dyna pryd wnes i ddod o hyd i Senedd Ieuenctid Cymru. Rwy'n sefyll oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid clywed lleisiau pobl ifanc, ac mae fy mynediad at y cyfryngau cymdeithasol, a'm cysylltiad agos â'm cymuned, yn yr ysgol a thu hwnt i'r ysgol, yn caniatáu i mi ymgysylltu â phobl ifanc a deall y materion sy'n bwysig. Mae gennyf olwg glir ar yr heriau a wynebwn, o addysg ac iechyd meddwl, i newid yn yr hinsawdd a chydraddoldeb. Yr hyn sy'n fy ngwneud i’n wahanol yw fy meddylfryd ymarferol a'm hymrwymiad i ddod o hyd i atebion go iawn. Nid wyf yma i dynnu sylw at broblemau yn unig, rwyf am helpu i'w datrys. Os caf fy ethol, byddaf yn gwneud fy ngorau i sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed ac yn gweithio tuag at newid cadarnhaol sydd o fudd i bob un ohonom.