Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Errol Keane
Promoting the Welsh language / Hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Mental health in schools / Iechyd Meddwl yn yr ysgol.
Politics in schools / Gwleidyddiaeth yn yr ysgol.
I believe I am a strong candidate for Welsh Youth Senedd because I truly want to make a difference to the young people of today, here in Wales. I believe every young person should feel heard, no matter their background. If I am elected I will make it my mission that No matter who you are, you will feel recognised and accepted. My top priorities, if elected are:
• To teach politics in comprehensive schools, aiding young people in feeling prepared for when they reach voting age.
• To make Wales, our language and our culture more recognisable around the globe.
• To raise more awareness of children’s mental health and help improve the structure of mental health management in every single school around Wales.
If there is one thing I have learnt through the course of my life, it is that people, all people, go through difficult situations and sometimes feel unimportant. But, should you elect me, I will make it my mission to make sure the young people of our nation are appreciated. - Errol.
Dw i’n credu fy mod i’n ymgeisydd cryf ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i wir eisiau gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc heddiw, yma yng Nghymru. Dw i’n credu y dylai pob person ifanc deimlo fel bod rhywun yn gwrando; dim ots beth yw eu cefndir. Os bydda’ i’n cael fy ethol, dw i’n mynd i wneud yn siŵr y byddwch chi’n cael eich derbyn a’ch cydnabod, dim ots pwy ydych chi. Dyma fy mhrif flaenoriaethau os byddaf yn cael fy ethol:
• Addysg gwleidyddiaeth yn yr ysgol gyfan i wneud yn siŵr bod pobl yn teimlo’n barod pan fyddan nhw’n cyrraedd oed pleidleisio.
• Gwneud Cymru, ein hiaith a’n diwylliant yn fwy amlwg yn fyd-eang.
• Codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl plant a helpu i wella strwythur rheoli iechyd meddwl ym mhob ysgol yng Nghymru.
Drwy fy mywyd, dw i wedi dysgu bod pobl, pob person, yn mynd drwy bethau anodd ac weithiau’n teimlo fel nad y’n nhw’n bwysig. Ond, os byddwch chi’n pleidleisio drosof fi, dw i’n mynd i wneud yn siŵr bod pobl ifanc ein gwlad yn cael eu gwerthfawrogi. – Errol