Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Reneem Mohammad Eshak
Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Education / Addysg
Food / Bwyd
I am suitable to be nominated for the Welsh youth parliament for many reasons. I am organized, creative and always look at all points of view. I believe that everyone should have equal opportunities. I believe that mental health in general is overlooked and that, if there was someone to help, then I could save a lot of lives that fall victim to suicide. I would Post up a ballot box where young people could put their ideas and thoughts. I could make multiple and put them in public libraries, different schools, etc. I could also visit different schools and consult with the students. I believe I should be voted for as I will always consider other thoughts. I want to help Wales become better. I want to construct a world where nobody must live in fear, nobody must be discriminated against, and nobody must have their views ignored. I am also currently part of the student council in my school as wellbeing representative for year 9. I want to be in the youth parliament, to make a difference.
Dw i’n addas i gael fy ethol ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru am sawl rheswm. Dw i’n drefnus, creadigol a bob amser yn gwrando ar bob barn. Dw i’n credu bod angen i bawb gael cyfle cyfartal. Dw i’n credu bod iechyd meddwl yn gyffredinol yn cael ei anwybyddu ac os byddai rhywun yno i helpu, yna bydden i’n gallu achub llawer o fywydau sy’n cyflawni hunan-laddiad. Bydden i’n rhoi bocs i fyny ble gall pobl adael syniadau a meddyliau. Bydden i’n gallu creu sawl un a’u gadael nhw mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, ysgolion gwahanol ac ati. Bydden i hefyd yn gallu ymweld ag ysgolion gwahanol a thrafod gyda’r disgyblion. Dw i’n credu y dylech chi bleidleisio drosof fi oherwydd bydda’ i bob amser yn ystyried barn pobl eraill. Dw i eisiau helpu Cymru i ddod yn rhywle gwell. Dw i eisiau creu byd lle does neb yn byw mewn ofn, does neb yn cael eu gwahaniaethu a dyw barn neb yn cael ei hanwybyddu. Dw i hefyd yn rhan o’r cyngor ysgol yn fy ysgol ac yn gynrychiolydd lles ar gyfer blwyddyn 9. Dw i eisiau bod yn y Senedd Ieuenctid i wneud gwahaniaeth.