Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Lowri Davies

Mater o Bwys 1

Healthcare / Gofal iechyd

Mater o Bwys 2

Mental Health Services / Gwasanaethau iechyd meddwl

Mater o Bwys 3

Education / Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

- I would like to be a Welsh parliament member to ensure that everyone gets their voices heard. I want to be able to speak for those who feel they are not truly being listened to, and make them heard.
- I am open to new ideas and very happy to listen to anyone who has anything to say. I want to ensure everyone gets their thoughts across and heard, and through me they can.
- You should vote for me because i pride myself on doing my best to ensure we can reach equality between all, and that we hear everyone's thoughts, not only the thoughts of those who fit into the societal norm.
- I am currently in my schools debate team and i am good at getting my point across to other people. I am a confidant speaker and am not afraid to speak for those who need to be heard most in our society.

DATGANIAD YMGEISYDD

Hoffwn i fod yn aelod Senedd Ieuenctid Cymru i sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Dw i eisiau gallu siarad dros y rhai sy’n teimlo nad oes neb wir yn gwrando arnyn nhw, a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Dw i’n agored i syniadau newydd ac yn fwy na pharod i wrando ar rywun sydd â rhywbeth i’w ddweud. Dw i eisiau sicrhau bod meddyliau pawb yn cael eu cyfleu a’u clywed, ac mae hynny’n bosibl gyda fi. Dylech chi bleidleisio drosof i oherwydd fy mod i’n ymfalchïo mewn gwneud fy ngorau i sicrhau ein bod ni’n gallu cyrraedd cydraddoldeb rhwng pawb, a’n bod ni’n clywed meddyliau pawb, nid dim ond y rhai sy’n gweddu i’r norm cymdeithasol.
Dw i yn nhîm dadl fy ysgol a dw i’n dda ar fynegi fy safbwynt i bobl eraill. Dw i’n siaradwr hyderus a dw i ddim yn ofni dadlau dros y rhai mae angen eu clywed fwyaf yn ein cymdeithas.