Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Macsen Cybi Davies
Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Education / Addysg
Healthcare / Gofal Iechyd
I would like to become a member of the Welsh Youth Parliament because I have a strong interest in politics and want to increase my understanding of the key issues that Welsh youth face daily. I will consult with groups and individuals by sending out questionnaires to schools in the Cardiff West Area and asking students in my school about their concerns. I will use this information to voice and address what the youth in my area believe needs to change in Wales. I believe I would be a valuable member of the Welsh Youth Parliament due to my social and communication skills, as well as my passion for advocating on behalf of the three issues I feel deserve more awareness. I also aim to engage with the local youth and listen to their concerns. I will contribute to the Welsh Youth Parliament by collaborating with other members to benefit the youth and sharing the information I have gathered. Vote for me because I will listen and advocate for necessary changes to benefit us youth in Wales.
Dw i eisiau dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth a dw i eisiau gwella fy nealltwriaeth o broblemau bob dydd pobl ifanc. Dw i’n mynd i gysylltu gyda grwpiau ac unigolion drwy anfon holiaduron i ysgolion yng Ngorllewin Caerdydd a gofyn i ddisgyblion yn fy ysgol am eu pryderon. Dw i’n mynd i ddefnyddio’r wybodaeth hon i leisio a datrys beth mae pobl ifanc fy ardal yn meddwl sydd angen ei newid yng Nghymru. Dw i’n credu y bydden i’n aelod gwerthfawr o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, ac fy angerdd dros godi llais ar dri phwnc sydd angen mwy o sylw. Dw i hefyd yn bwriadu cysylltu â phobl ifanc lleol a gwrando ar eu pryderon. Dw i’n mynd i gyfrannu at Senedd Ieuenctid Cymru drwy gydweithio gydag aelodau eraill er budd pobl ifanc, a rhannu’r wybodaeth dw i wedi ei dysgu. Pleidleisiwch drosof fi oherwydd bydda’ i’n gwrando ac yn eirioli dros newidiadau fydd yn gwella pethau i ni bobl ifanc Cymru.