Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Barwaaqo Y E Hassan

Mater o Bwys 1

Education/Addysg

Mater o Bwys 2

Housing/Tai

Mater o Bwys 3

Mental health services/Gwasanaethau iechyd meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

As someone who lives in the heart of Cardiff, I have a very strong understanding of the needs and wants of the people in my area. I wish to become a Welsh Youth Parliament Member as I will be able to use both my own experiences and the experiences of young people in my area to propose new ideas and initiatives to Parliament that will not only benefit my area, but the whole of Wales. I plan to hold weekly/biweekly meetings in community centres in my area where young people can come along and voice their concerns and opinions, which I will be able to pass on to Parliament. I am a compassionate, hardworking, and pragmatic individual who understands how young people think and what they may want from a Youth Parliament. If elected, I will ensure that all young people in my area are heard and their feelings, thoughts, and opinions are not ignored and disregarded, and instead discussed on a larger scale and truly considered, which will hopefully lead to change across the country.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fel rhywun sy’n byw yng nghanol Caerdydd, mae gen i ddealltwriaeth gref iawn o anghenion a dymuniadau’r bobl yn fy ardal. Hoffwn i fod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru gan y byddaf yn gallu defnyddio fy mhrofiadau fy hun a phrofiadau pobl ifanc yn fy ardal i gynnig syniadau a mentrau newydd i’r Senedd a fydd o fudd i fy ardal i, yn ogystal ag i Gymru gyfan. Rwy’n bwriadu cynnal cyfarfodydd bob wythnos/pythefnos mewn canolfannau cymunedol yn fy ardal lle gall pobl ifanc ddod i leisio eu pryderon a’u barn, a byddaf yn gallu eu rhannu gyda’r Senedd. Rwy’n unigolyn tosturiol, gweithgar a phragmatig sy’n deall sut mae pobl ifanc yn meddwl a’r hyn y gallent ei ddymuno gan Senedd Ieuenctid. Os byddaf yn cael fy ethol, byddaf yn sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn fy ardal yn cael eu clywed ac nad yw eu teimladau, eu meddyliau, a’u barn yn cael eu hanwybyddu a’u diystyru, ac yn hytrach yn cael eu trafod ar raddfa fwy a’u hystyried yn wirioneddol, gan arwain, gobeithio, at newid ledled y wlad.