Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Grace Ingram
The environment/Yr amgylchedd
Welsh Language/ Y Gymraeg
Education/Addysg
We young people make up around 20% of Wales' population (2021) but we don't always have a chance to share our opinions.The WYP enables real change and with your vote, I will make your voice heard by representing our constituency in the hub of Welsh democracy-The Senedd.
Here are my key issues:
-Access to and protection of nature should NOT be a "postcode lottery”(Environment)
-The Welsh language must thrive for EVERYONE in order to grow sustainably (Welsh language)
-WE need a say on our education so that we develop into informed young people, ready to enact change (Education)
If you agree then I am the candidate for you! As your representative I will ask your opinion regularly in the form of surveys and consultation groups.Essentially, prepare to be heard and valued!
Diolch o Galon - Grace
Fel pobl ifanc, ni yw tua 20 y cant o boblogaeth Cymru (2021), ond dydyn ni ddim bob amser yn cael cyfle i rannu ein barn. Mae SIC yn galluogi newid gwirioneddol a, chyda’ch pleidlais chi, bydda i’n sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed drwy gynrychioli ein hetholaeth yn hwb democratiaeth Cymru – Y Senedd.
Dyma fy materion allweddol:
- Ddylai mynediad at natur a gwarchod natur DDIM bod yn “loteri cod post” (yr amgylchedd)
- Mae rhaid i’r Gymraeg ffynnu i BAWB er mwyn tyfu’n gynaliadwy (y Gymraeg)
- Mae angen i NI ddweud ein dweud ar ein haddysg fel ein bod ni’n datblygu’n bobl ifanc wybodus, yn barod i weithredu newid (addysg)
Os ydych chi’n cytuno, fi yw’r ymgeisydd i chi! Fel eich cynrychiolydd, bydda i’n gofyn am eich barn yn rheolaidd ar ffurf arolygon a grwpiau ymgynghori. Yn y bôn, byddwch yn barod i gael eich clywed a’ch gwerthfawrogi!
Diolch o galon - Grace