Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Transport / Trafnidiaeth

Mater o Bwys 3

Welsh Language / Y Gymraeg

DATGANIAD YMGEISYDD

Hi, my name is Pietro Ruta. I’m 13 years old and I’m the right person to vote for. I have been in my school’s student council for 2 years. I will be a friendly and co-operative youth parliament member to talk and give suggestions to. You will be able to talk with me easily, and you will feel comfortable with me as the representative. I will make a good representative because I believe in justice and equality for all. I am very interested in making Public Transport cheap and easy to access for all, among other things. This is very important as it will urge youth to use public transport instead of cars, being kind to the environment. I’m intelligent and will always try to have good knowledge on subjects we discuss and consider. I’m doing this because I’m genuinely interested in helping us youth. I’m committed to making Wales a safer, happier and healthier place for us. Please vote for Pietro!

DATGANIAD YMGEISYDD

Helo, fy enw i yw Pietro Ruta. Rydw i’n 13 oed a fi yw’r person iawn i bleidleisio drosto. Rydw i wedi bod ar gyngor disgyblion yr ysgol ers 2 flynedd. Byddaf yn aelod cyfeillgar a chydweithredol o’r Senedd Ieuenctid i siarad a rhannu awgrymiadau. Byddwch yn gallu siarad â fi, ac yn teimlo’n gyfforddus gyda fi fel cynrychiolydd. Byddaf yn gynrychiolydd da oherwydd dw i’n credu mewn cyfiawnder a chydraddoldeb i bawb. Mae gen i ddiddordeb mewn gwneud Trafnidiaeth Gyhoeddus yn rhad ac yn hawdd i bawb ei defnyddio, ymysg pethau eraill. Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd bydd yn annog pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir, gan fod yn gyfeillgar i’r amgylchedd. Rydw i’n glyfar a bob amser yn ceisio deall pynciau yn dda, rydw i’n gwneud hyn oherwydd mae gen i ddiddordeb go iawn mewn helpu pobl ifanc. Rydw i wedi ymrwymo i wneud Cymru yn lle mwy diogel, mwy hapus ac iachach i bawb. Pleidleisiwch dros Pietro!