Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Eleanor Hopkins

Mater o Bwys 1

Mental health / Iechyd meddwl

Mater o Bwys 2

Transport / Trafnidiaeth

Mater o Bwys 3

Education / Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

Hi My name is Eleanor Hopkins, and I want to improve the lives of young people across Wales. Making sure you have a say as it is crucial for our voices to be heard on the issues that truly affect us, like education, mental health, and transport. I will make sure that all young people in our communities always have a say in the decisions that shape and effect our lives.

Through regular meetings, social media posts, and surveys, I will constantly seek out your opinions and ensure that your concerns and opinions are front and centre in every conversation.

I believe you should vote for me as i am passionate, determined, and ready to work tirelessly on your behalf. My experience in leadership roles in cyc, rotary and other organisations have given me the skills to listen, communicate clearly, and advocate effectively for change.

Together, we can build a brighter future for all young people in Wales. Your voice matters, and I am here to make sure it is heard.

DATGANIAD YMGEISYDD

Helo, fy enw i yw Eleanor Hopkins, ac rydw i eisiau gwella bywydau pobl ifanc ledled Cymru. Gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael dweud eich dweud, gan ei bod hi’n hollbwysig i’n lleisiau gael eu clywed ar y materion sy’n wirioneddol effeithio arnom ni, megis addysg, iechyd meddwl, a thrafnidiaeth. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod pob person ifanc yn ein cymunedau yn cael lleisio eu barn ar bob adeg ynghylch penderfyniadau sy’n llywio ac yn effeithio ar ein bywydau.

Trwy gyfarfodydd rheolaidd, cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, ac arolygon, byddaf yn ceisio eich barn yn gyson, ac yn sicrhau bod eich pryderon a'ch barn yn ganolog i bob sgwrs.

Credaf y dylech bleidleisio drosof gan fy mod yn angerddol, yn benderfynol, ac yn barod i weithio’n ddiflino ar eich rhan. Mae fy mhrofiad mewn rolau arwain yn cyc, rotari a sefydliadau eraill wedi rhoi'r sgiliau i mi wrando, cyfathrebu'n glir, ac eirioli'n effeithiol dros newid.

Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol mwy disglair i holl bobl ifanc Cymru. Mae eich llais yn bwysig, ac rwyf yma i sicrhau ei fod yn cael ei glywed.