Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Owen Rhys Gould

Mater o Bwys 1

Healthcare / Gofal iechyd

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Transport / Trafnidiaeth

CANDIDATE STATEMENT

I would like to be a Welsh Youth Parliament Member because I want to help people, to be considerate of the differences between them and their circumstances and to champion policies for the betterment of all the people of Wales.
To consult young people in my community I would set up a club in my school to bring them together after school hours. This would provide a forum for discussion of issues, challenges and opportunities facing this age group. The accounts of my "constituents" would be valuable in forming ideas about policies to them. I would bring these to the parliament and be their voice.

Someone should vote for me because I promise to listen and to act. I promise to be their honest champion and work on their behalf to make sure that they are heard.

I have a passion for politics, after a campaign I was elected a councillor in my school, I was a member of the debate club and, over 2 years, competed nationally. On invitation, I joined the European youth parliament in 2024.

DATGANIAD YMGEISYDD

Hoffwn fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod am helpu pobl, bod yn ystyriol o’r gwahaniaethau rhyngddynt a’u hamgylchiadau, a hyrwyddo polisïau er lles holl bobl Cymru.
Er mwyn ymgynghori â phobl ifanc yn fy nghymuned, byddwn yn sefydlu clwb yn fy ysgol i’w dwyn at ei gilydd ar ôl oriau ysgol. Byddai hynny’n cynnig fforwm ar gyfer trafod materion, heriau a chyfleoedd sy'n wynebu'r grŵp oedran hwn. Byddai safbwyntiau fy "etholwyr" yn werthfawr er mwyn datblygu syniadau ynghylch polisiau. Byddwn yn dwyn y rhain i’r Senedd, ac yn rhoi llais iddynt.

Dylai rhywun bleidleisio drosof fi oherwydd rwy'n addo gwrando a gweithredu. Rwy’n addo bod yn hyrwyddwr gonest iddynt, a gweithio ar eu rhan, i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu clywed.

Mae gen i angerdd dros wleidyddiaeth. Cefais fy ethol yn gynghorydd yn fy ysgol, yn dilyn ymgyrch, roeddwn yn aelod o'r clwb dadlau a hefyd, dros 2 flynedd, bûm yn cystadlu ar lefel genedlaethol. Ar ôl cael gwahoddiad, ymunais â senedd ieuenctid Ewrop yn 2024.