Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Roha Rafiei

Mater o Bwys 1

Mental Health Support / Cymorth Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Improved public transport / Gwella trafnidiaeth gyhoeddus

Mater o Bwys 3

Safe spaces for women/girls / Mannau diogel i fenywod/merched

DATGANIAD YMGEISYDD

My name is Roha Rafiei. I am running for Welsh Youth Parliament because I want to create a more inclusive, forward-thinking Wales where young people’s perspectives drive our future. Having faced a range of personal challenges, I understand the issues young people encounter and am committed to representing your views with passion and dedication. As an Exec member of Cardiff Youth Council, I actively work to raise awareness of key issues in my city. My role as Chair of Media has led me to develop strong leadership and communication skills which will aid me in amplifying and defending the voices of my peers. I am a good listener, and possess the organisation skills and dedication needed to turn ideas into action. I will work tirelessly to ensure that all perspectives, especially those of underrepresented groups, are included in decision-making processes. My friendly and approachable manner will help me develop open channels of communication where young people can easily share their views.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Roha Rafiei. Rwy’n sefyll ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod eisiau creu Cymru fwy cynhwysol a blaengar, lle mae safbwyntiau pobl ifanc yn llywio ein dyfodol. Ar ôl wynebu ystod o heriau personol, rwy’n deall y problemau y mae pobl ifanc yn dod ar eu traws, ac wedi ymrwymo i gynrychioli eich barn gydag angerdd ac ymroddiad. Fel aelod gweithredol o Gyngor Ieuenctid Caerdydd, rwy'n gweithio'n frwd i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol yn fy ninas. Mae fy rôl fel Cadeirydd y Cyfryngau wedi fy arwain at ddatblygu sgiliau arwain a chyfathrebu cryf, a fydd yn fy nghynorthwyo i roi sylw amlwg i lais fy nghyfoedion, a’i amddiffyn. Rwy’n wrandäwr da, ac yn meddu ar y sgiliau trefnu a’r ymroddiad sydd eu hangen i droi syniadau’n gamau gweithredu. Byddaf yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pob safbwynt, yn enwedig safbwyntiau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn cael eu cynnwys yn y prosesau gwneud penderfyniadau. Bydd fy natur gyfeillgar, fel rhywun sy’n hawdd mynd ati, yn fy helpu i ddatblygu sianeli cyfathrebu agored lle gall pobl ifanc rannu eu barn yn hawdd.