Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Sana Ahmed

Mater o Bwys 1

Environment / Yr amgylchedd

Mater o Bwys 2

Public Transport / Trafnidiaeth gyhoeddus

Mater o Bwys 3

Social Media / Y cyfryngau cymdeithasol

DATGANIAD YMGEISYDD

My name is Sana and I am 13 years old. I have lived in Cardiff all my life which sparked my passion for improving the city and wanting to join the Youth Parliament. I believe I would be a great member because I am empathetic, confident and eager to share my opinions and stimulate change.
As a ‘Gen Alpha’, I want to reduce the stigma surrounding our generation and prove that we care about Wales too. I aim to ensure everyone has a voice, no matter their age or background. The children of today will lead this country in the future, so we should be able to express our opinions. I plan to create posters with surveys to gather information on what people want to see, placing them in key community locations like schools and parks.
I have volunteered with St John Ambulance for almost two years, helping provide first aid, showing my commitment to keeping the community safe. Additionally, I spent 2 years on the school council, which taught me how to represent views and work effectively in a team.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Sana ac rwy'n 13 mlwydd oed. Rwyf wedi byw yng Nghaerdydd ar hyd fy oes, a hynny ysgogodd fy angerdd dros wella'r ddinas, a’r awydd i ymuno â'r Senedd Ieuenctid. Rwy’n credu y byddwn i’n aelod gwych oherwydd rwy’n empathetig, yn hyderus ac yn awyddus i rannu fy marn ac ysgogi newid.
Fel 'Gen Alffa', rydw i eisiau lleihau'r stigma sy'n amgylchynu ein cenhedlaeth, a phrofi bod Cymru o bwys i ni, hefyd. Fy nod yw sicrhau bod gan bawb lais, waeth beth fo'u hoedran na'u cefndir. Bydd plant heddiw yn arwain y wlad hon yn y dyfodol, felly dylem allu mynegi ein barn. Rwy’n bwriadu creu posteri gydag arolygon i gasglu gwybodaeth am yr hyn y mae pobl eisiau ei weld, gan eu gosod mewn lleoliadau cymunedol allweddol fel ysgolion a pharciau.
Rwyf wedi gwirfoddoli gydag Ambiwlans Sant Ioan ers bron i ddwy flynedd, gan helpu i ddarparu cymorth cyntaf, gan ddangos fy ymrwymiad i gadw'r gymuned yn ddiogel. At hynny, treuliais 2 flynedd ar y cyngor ysgol, a ddysgodd i mi sut i gynrychioli safbwyntiau a gweithio'n effeithiol mewn tîm.