Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Alexander Howlett

Mater o Bwys 1

Climate Change/Newid Hinsawdd

Mater o Bwys 2

Child poverty/Tlodi Plant

Mater o Bwys 3

Underfunded schools/Ysgolion sy’n cael eu tanariannu

DATGANIAD YMGEISYDD

My name is Alex Howlett, and I’m standing for the Welsh Youth Parliament to represent the voices of young people in this area. My first priority is ensuring that young people's views and concerns are not only heard but properly acted upon—whether it's underfunded schools, the mental health crisis, or tackling climate change. A particularly poignant issue for me is the rise in child poverty. In Wales, a staggering 28% of children are living in relative poverty, many of whom are unable to afford heating or even clean clothes. I will push ruthlessly for increased support for families by addressing the poverty premium and the patchy welfare system. With experience in my local CLP and school council, I believe I have the leadership and communication skills needed to confront these issues head on with fairness and integrity. I have always had an enduring faith and optimism in the young people of Wales, and I offer my best efforts to reflect that enthusiasm when representing Cardiff Central.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Alex Howlett, a dw i’n ymgeisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru i gynrychioli lleisiau pobl ifanc yn yr ardal hon. Fy mlaenoriaeth gyntaf yw sicrhau bod safbwyntiau a phryderon pobl ifanc nid yn unig yn cael eu clywed ond hefyd yn cael eu gweithredu’n briodol – boed hynny’n ysgolion nad ydyn nhw’n cael digon o arian, yr argyfwng iechyd meddwl, neu’n mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mater arbennig o ingol i mi yw’r cynnydd mewn tlodi plant. Yng Nghymru, mae canran syfrdanol o blant (28%) yn byw mewn tlodi cymharol, gyda llawer ohonyn nhw’n methu â fforddio gwresogi neu hyd yn oed ddillad glân. Byddaf yn gwthio’n ddidrugaredd am fwy o gymorth i deuluoedd drwy fynd i’r afael â’r premiwm tlodi a’r system les dameidiog. Gyda phrofiad ym Mhlaid Lafur fy etholaeth (CLP) ac ar gyngor yr ysgol leol, credaf fod gen i’r sgiliau arwain a chyfathrebu sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r materion hyn yn uniongyrchol gyda thegwch ac uniondeb. Dw i bob amser wedi bod â ffydd ac optimistiaeth barhaus ym mhobl ifanc Cymru, a chynigiaf fy ymdrechion gorau i adlewyrchu’r brwdfrydedd hwnnw wrth gynrychioli Caerdydd Canolog.