Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Jorge Lobo Dos Santos

Mater o Bwys 1

Mental Health, Life Skills/Iechyd Meddwl, Sgiliau Bywyd

Mater o Bwys 2

Improve Public Transit Access/Gwella Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus

Mater o Bwys 3

Changes to the P.E. curriculum/Newidiadau i'r cwricwlwm Addysg Gorfforol

DATGANIAD YMGEISYDD

As a dedicated and confident individual, I'm committed to addressing the concerns of young people in Wales. My strong communication skills, honed through public performances, will enable me to advocate effectively as a Welsh Youth Parliament Member. I firmly believe in the influence of our voices in shaping the future and I am enthusiastic about representing our community.

I am committed to regularly seeking input from young people through forums and social media to ensure your voices are heard. My priorities include enhancing mental health services, improving public transport access, and revamping our education system to provide essential life skills.

Vote for me because I'm resolute in making a tangible impact. With my determination, experience, and enthusiasm for change, I will tirelessly champion your interests, ensuring the Welsh Youth Parliament aligns with the needs and aspirations of young people across Wales.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fel unigolyn ymroddedig a hyderus, dw i wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phryderon pobl ifanc yng Nghymru. Bydd fy sgiliau cyfathrebu cryf, wedi’u hogi drwy berfformiadau cyhoeddus, yn fy ngalluogi i eirioli’n effeithiol fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Credaf yn gryf yn nylanwad ein lleisiau wrth lunio’r dyfodol a dw i’n frwd dros gynrychioli ein cymuned.

Dw i wedi ymrwymo i geisio mewnbwn gan bobl ifanc yn rheolaidd drwy fforymau a’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod eich lleisiau’n cael eu clywed. Mae fy mlaenoriaethau yn cynnwys gwella gwasanaethau iechyd meddwl, gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, ac ailwampio ein system addysg i ddarparu sgiliau bywyd hanfodol.

Pleidleisiwch drosta i oherwydd fy mod i’n benderfynol o gael effaith bendant. Gyda’m penderfyniad, fy mhrofiad a’m brwdfrydedd dros newid, byddaf yn hyrwyddo’ch buddiannau’n ddiflino, gan sicrhau bod Senedd Ieuenctid Cymru yn cyd-fynd ag anghenion a dyheadau pobl ifanc ledled Cymru.