Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Alex Lai

Mater o Bwys 1

Mental health support/Cymorth Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Better education/Gwell Addysg

Mater o Bwys 3

More environmentally sustained/Dod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy

DATGANIAD YMGEISYDD

I am writing to express my interest in joining the Welsh Youth Parliament. As a passionate advocate for youth issues, I believe my experiences and perspectives can contribute positively to our community.
I am a student at Cardiff High School, where I actively participate in various extracurricular activities. This involvement has honed my leadership skills and deepened my understanding of the concerns faced by young people today, such as mental health, education, and climate change.
I am particularly committed to amplifying the voices of underrepresented youth and fostering inclusive dialogue. I believe that everyone deserves to have their opinions heard, and I aim to ensure that the Welsh Youth Parliament is a platform for all.
Joining the Youth Parliament would provide me with the opportunity to collaborate with other motivated individuals to drive meaningful change. I am excited about the possibility of representing my peers and making a positive impact in our community. Thank you

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n ysgrifennu i fynegi fy niddordeb mewn ymuno â Senedd Ieuenctid Cymru. Fel eiriolwr angerddol dros faterion ieuenctid, dw i’n credu y gall fy mhrofiadau a’m safbwyntiau gyfrannu’n gadarnhaol at ein cymuned.
Dw i’n fyfyriwr yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, lle dw i’n cymryd rhan weithgar mewn gweithgareddau allgyrsiol amrywiol. Mae’r gwaith hwn wedi hogi fy sgiliau arwain ac wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o’r pryderon a wynebir gan bobl ifanc heddiw, megis iechyd meddwl, addysg, a newid hinsawdd.
Dw i wedi ymrwymo’n arbennig i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu clywed ac i feithrin deialog gynhwysol. Credaf fod pawb yn haeddu i’w barn gael ei chlywed, a dw i’n anelu at sicrhau bod Senedd Ieuenctid Cymru yn llwyfan i bawb.
Byddai ymuno â’r Senedd Ieuenctid yn rhoi’r cyfle i mi gydweithio ag unigolion brwdfrydig eraill i ysgogi newid ystyrlon. Dw i’n edrych ymlaen at y posibilrwydd o gynrychioli fy nghyfoedion a chael effaith gadarnhaol yn ein cymuned. Diolch