Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Morenci Rawlinson

Mater o Bwys 1

Access to the Arts/Mynediad at y Celfyddydau

Mater o Bwys 2

Mental Health in Education/Iechyd Meddwl mewn Addysg

Mater o Bwys 3

Suitable Housing/Tai Addas

DATGANIAD YMGEISYDD

Hey, I’m Morenci Rawlinson, a Year 10 at Cardiff High School who’s keen to represent you at the WYP.
I’m a theatre-loving STEM addict who makes strong friendships. I’m also fearless about speaking up. My theatrical experience helped me become a confident public speaker (I’ve won medals at the national Eisteddfod).
I’m excited about the WYP because I consider this a great opportunity to make a positive impact on the world. I want to bring the arts to young people from any background. I’ve seen firsthand the fantastic boost the arts can give to good mental health.
I want to make sure your voice is heard; what happens next is up to all young people. Between my work with Rangers and all my theatre commitments, I know many young people from across the Central Cardiff area. I’d also push for regular opportunities for young people to be listened to, whether that’s through polls, assemblies or focus groups.
Please vote for me so I can be your champion!

DATGANIAD YMGEISYDD

Hei, Morenci Rawlinson ydw i, disgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Caerdydd sy'n awyddus i'ch cynrychioli chi yn SIC.
Dw i’n dwli ar STEM, dw i wrth fy modd â theatr ac yn gwneud ffrindiau ffyddlon. Hefyd, does gen i ddim ofn codi llais. Fe wnaeth fy mhrofiad theatrig fy helpu i ddod yn siaradwr cyhoeddus hyderus (dw i wedi ennill medalau yn yr Eisteddfod Genedlaethol).
Dw i’n gyffrous am SIC oherwydd dw i’n ystyried hwn yn gyfle gwych i gael effaith gadarnhaol ar y byd. Dw i am ddod â’r celfyddydau i bobl ifanc o unrhyw gefndir. Dw i wedi gweld drosof fy hun yr hwb gwych y gall y celfyddydau ei roi i iechyd meddwl da.
Dw i am sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed; mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn bwysig i bob person ifanc. Rhwng fy ngwaith gyda’r Ceidwaid Parc a’m holl ymrwymiadau theatr, dw i’n nabod llawer o bobl ifanc o bob rhan o ardal Caerdydd Canolog. Byddwn hefyd yn gwthio am gyfleoedd rheolaidd i bobl ifanc gael eu clywed, boed hynny drwy arolygon barn, cynulliadau neu grwpiau ffocws.
Pleidleisiwch drosta i fel y gallaf fod yn bencampwr i chi!