Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Sali Morgan

Mater o Bwys 1

Crime & Safety/Trosedd a Diogelwch

Mater o Bwys 2

Creative Arts Funds/Cronfeydd y Celfyddydau Creadigol

Mater o Bwys 3

Mental Health Services/Gwasanaethau Iechyd Meddwl

CANDIDATE STATEMENT

As a Welsh speaker who has lived abroad, I have seen what works for young people and what does not. Wales is a great country, but there is room for change.

Firstly, I will fight for safer streets, arguing for more police patrolling at night and for easier access to crisis health services. I will also address crime by making Health and Wellbeing classes part of the curriculum, so that topics such as street safety, the environment, LGBTQIA+ issues, sexism and racism in society are understood by everyone.

Secondly, I believe we must increase funding of the creative arts in schools. Art, music and drama are central to Wales’ identity, but funding has been cut by a drastic amount. We need to promote creative arts, for the good of all.

Thirdly, I will work to improve mental health services for young people, understanding first-hand the challenges in accessing help. I will argue that this must change, for everyone. “I promise to turn my good words into good deeds for you.”- JFK. Diolch!

DATGANIAD YMGEISYDD

Fel siaradwr Cymraeg sydd wedi byw dramor, dw i wedi gweld beth sy’n gweithio i bobl ifanc a beth sydd ddim. Mae Cymru yn wlad wych, ond mae lle i newid.

Yn gyntaf, byddaf yn brwydro dros strydoedd mwy diogel, gan ddadlau dros fwy o batrolau gan yr heddlu gyda’r nos ac am fynediad haws at wasanaethau iechyd mewn argyfwng. Byddaf hefyd yn mynd i’r afael â throsedd drwy wneud dosbarthiadau Iechyd a Lles yn rhan o’r cwricwlwm, fel bod pynciau fel diogelwch stryd, yr amgylchedd, materion LHDTCRhA+, rhywiaeth a hiliaeth mewn cymdeithas yn cael eu deall gan bawb.

Yn ail, credaf fod yn rhaid inni gynyddu cyllid y celfyddydau creadigol mewn ysgolion. Mae celf, cerddoriaeth a drama yn ganolog i hunaniaeth Cymru, ond mae cyllid wedi'i dorri'n sylweddol. Mae angen inni hyrwyddo’r celfyddydau creadigol, er lles pawb.

Yn drydydd, byddaf yn gweithio i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc, gan ddeall yn uniongyrchol yr heriau o ran cael cymorth. Byddaf yn dadlau bod yn rhaid i hyn newid, er lles pawb. “I promise to turn my good words into good deeds for you.”- JFK. Diolch!