Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Dareen Ali

Mater o Bwys 1

Sustainability- Environment/Cynaliadwyedd – Amgylchedd

Mater o Bwys 2

Crisis in system -Healthcare/Argyfwng yn y system – Gofal Iechyd

Mater o Bwys 3

Oppression on poor- Education/Gorthrwm ar bobl dlawd – Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

Many young people voice their opinions without getting the attention they deserve, also many middle-aged people occupy the top political posts 67% which shouldn't be the case. If I am elected, I would reach out to young people via social media and local community organisations e.g youth groups. I am aware that parliament's primary duty is to represent the people and make sure their views are heard. In particular, lower income families who have faced difficult financial situations very recently and my understanding of these situations will make me able to drive initiatives to bring about change in Wales. I have been able to plan a wide variety of activities geared towards young people as a youth ambassador for Bullies Out, a charity that addresses bullying. In addition, as a member of my school council, I have proposed numerous policies that have assisted the school in resolving various problems. I have also been involved in debate for 3 years allowing me to voice my opinion impartially.

DATGANIAD YMGEISYDD

Mae llawer o bobl ifanc yn lleisio eu barn heb gael y sylw y maen nhw’n ei haeddu. Hefyd mae llawer o bobl ganol oed yn meddiannu 67% o’r prif swyddi gwleidyddol. Ddylai hynny ddim bod yn wir. Os caf fy ethol, byddwn yn estyn allan at bobl ifanc trwy’r cyfryngau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol lleol e.e. grwpiau ieuenctid. Dw i’n ymwybodol mai prif ddyletswydd y Senedd yw cynrychioli’r bobl a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Yn benodol, bydd teuluoedd incwm is sydd wedi wynebu sefyllfaoedd ariannol anodd yn ddiweddar iawn a’m dealltwriaeth o’r sefyllfaoedd hyn yn fy ngalluogi i ysgogi mentrau i sicrhau newid yng Nghymru. Dw i wedi gallu cynllunio amrywiaeth eang o weithgareddau wedi'u hanelu at bobl ifanc fel llysgennad ieuenctid i Bullies Out, elusen sy'n mynd i'r afael â bwlio. Yn ogystal, fel aelod o gyngor fy ysgol, dw i wedi cynnig nifer o bolisïau sydd wedi helpu’r ysgol i ddatrys problemau amrywiol. Dw i hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn dadleuon ers tair blynedd gan ganiatáu imi leisio fy marn yn ddiduedd.