Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Sam Breckon

Mater o Bwys 1

Environment/Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 2

Education/Addysg

Mater o Bwys 3

Welsh Language/Yr Iaith Gymraeg

CANDIDATE STATEMENT

I’m Sam from Cardiff and I believe I would make a great Welsh Youth Parliament member due to my leadership and confidence. I’ve always been passionate about politics, driven by a desire to improve people's lives and a want of finding out how the world works. I actively participate in school politics as a form representative and have developed public speaking skills through school performances. I excel in sports, having played rugby and cricket at a high level, and served as captain of my cricket team, highlighting my leadership abilities. I believe young people are not being adequately heard by self-interested politicians. If elected I would prioritize listening to young voices and encouraging youth participation in politics as, in my opinion, people leave school without any knowledge of politics and how the country works, then all of a sudden, they have to vote! Young people must recognize that today’s decisions shape their future. I would love to support the young people of Wales.

DATGANIAD YMGEISYDD

Sam o Gaerdydd ydw i a dw i’n credu y byddwn i’n gwneud aelod gwych o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy arweinyddiaeth a’m hyder. Dw i bob amser wedi bod yn angerddol am wleidyddiaeth, wedi fy ysgogi gan awydd i wella bywydau pobl ac eisiau darganfod sut mae'r byd yn gweithio. Dw i’n cymryd rhan weithredol yng ngwleidyddiaeth ysgol fel cynrychiolydd dosbarth ac wedi datblygu sgiliau siarad cyhoeddus trwy berfformiadau yn yr ysgol. Dw i’n rhagori mewn chwaraeon, ar ôl chwarae rygbi a chriced ar lefel uchel, a bod yn gapten ar fy nhîm criced, gan amlygu fy ngalluoedd arwain. Dw i’n credu nad yw pobl ifanc yn cael eu clywed yn ddigonol gan wleidyddion hunanol. Pe bawn i’n cael fy ethol, byddwn yn blaenoriaethu gwrando ar leisiau ifanc ac annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth gan fod pobl, yn fy marn i, yn gadael yr ysgol heb unrhyw wybodaeth am wleidyddiaeth a sut mae'r wlad yn gweithio, yna yn sydyn iawn, mae'n rhaid iddyn nhw bleidleisio! Rhaid i bobl ifanc gydnabod bod penderfyniadau heddiw yn llywio eu dyfodol. Byddwn wrth fy modd yn cefnogi pobl ifanc Cymru.