Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Efa Friston-Kemble

Mater o Bwys 1

Gender affirming healthcare/Gofal iechyd sy'n gadarnhaol am rywedd

Mater o Bwys 2

Environment/Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Transport/Cludiant

DATGANIAD YMGEISYDD

I would like to be in the Welsh Youth Parliament because there are so many things in our current political climate which are genuinely affecting young people like me, and it's not easy to get our voices heard. As a trans girl, I'm passionate about gender affirming healthcare. Waiting lists are getting longer, distressing people like me: causing huge damage to vulnerable young people. I regularly attend Youth Service provision which allows me to speak with a wide range of young people very often, gathering opinions and views from all across Cardiff. I am articulate, enthusiastic, and have many skills that would suit this position, like artistic talent to design flyers and promotional content. To ensure people who are transgender's issues are covered in Welsh Youth Parliament, vote for Efa!

DATGANIAD YMGEISYDD

Hoffwn fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd mae cymaint o bethau yn ein hinsawdd wleidyddol bresennol sy'n effeithio'n wirioneddol ar bobl ifanc fel fi, a dyw hi ddim yn hawdd sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed. Fel merch draws, dw i’n angerddol am ofal iechyd sy'n gadarnhaol am rywedd. Mae rhestrau aros yn mynd yn hirach, ac yn peri gofid i bobl fel fi, gan achosi difrod enfawr i bobl ifanc sy’n agored i niwed. Dw i’n mynychu darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid yn rheolaidd sy’n caniatáu imi siarad ag amrywiaeth o bobl ifanc yn aml iawn, gan gasglu barn a safbwyntiau o bob rhan o Gaerdydd. Dw i’n groyw, yn frwdfrydig, ac mae gen i lawer o sgiliau a fyddai'n addas ar gyfer y swydd hon, fel dawn artistig i ddylunio taflenni a chynnwys hyrwyddo. Er mwyn sicrhau bod pobl draws yn cael sylw yn Senedd Ieuenctid Cymru, pleidleisiwch dros Efa!