Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Yzen Younis

Mater o Bwys 1

The Environment/Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 2

Education/Addysg

Mater o Bwys 3

Mental Health Services/Gwasanaethau Iechyd Meddwl

CANDIDATE STATEMENT

Hi! I’m Yzen Younis, and I’m excited to run for the Welsh Youth Parliament because I want to be a strong voice for young people in Wales. It’s essential that everyone our age feels heard, and I’m committed to making a positive impact on issues that matter to us.

Climate change, mental health, and educational equity are my top priorities. We need urgent action on climate issues and better mental health resources, as many of my peers struggle in silence. Every student deserves equal access to quality education, no matter their background.

I’ve previously been voted deputy head in my primary school senedd, which gave me valuable experience in representing young voices. To ensure that everyone is heard, I’ll consult with my peers through surveys, community meetings, and social media, creating a safe space for sharing thoughts and ideas.

You should vote for me because I’m passionate, dedicated, and ready to fight for our future. My experience in advocacy and teamwork has prepared me for.

DATGANIAD YMGEISYDD

Helô! Yzen Younis ydw i, a dw i’n gyffrous i ymgeisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i eisiau bod yn llais cryf i bobl ifanc Cymru. Mae'n hanfodol bod pawb o'n hoedran ni yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, a dw i wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar faterion sy'n bwysig i ni.

Newid hinsawdd, iechyd meddwl, a thegwch addysgol yw fy mhrif flaenoriaethau. Mae angen gweithredu ar frys ar faterion hinsawdd a gwell adnoddau iechyd meddwl, gan fod llawer o’m cyfoedion yn brwydro yn dawel. Mae pob myfyriwr yn haeddu mynediad cyfartal at addysg o safon, waeth beth fo'u cefndir.

Roeddwn i’n ddirprwy bennaeth yn senedd fy ysgol gynradd yn flaenorol. Rhoddodd hyn brofiad gwerthfawr i mi o gynrychioli lleisiau ifanc. Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu clywed, byddaf yn ymgynghori â'm cyfoedion trwy arolygon, cyfarfodydd cymunedol, a’r cyfryngau cymdeithasol, gan greu lle diogel i rannu meddyliau a syniadau.

Dylech bleidleisio drosta i oherwydd fy mod i’n angerddol, ymroddedig, ac yn barod i ymladd dros ein dyfodol. Mae fy mhrofiad mewn eiriolaeth a gwaith tîm wedi fy mharatoi ar gyfer hynny.