Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mellina Karthikeyan

Mater o Bwys 1

Education/Addysg

Mater o Bwys 2

Welsh Language/Yr Iaith Gymraeg

Mater o Bwys 3

Mental Health Services/Gwasanaethau Iechyd Meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

I am passionate about improving education, promoting the Welsh language, and advocating for better mental health services!

Education is fundamental for every child's life. As a member, I would work to provide all Welsh pupils with opportunities such as informing them about things like IAW magazine subscriptions and organizing essay competitions. I would also strive to create leadership opportunities, provide information about them to school pupils, and let pupils have a say in school decisions.

The Welsh language is essential to our culture, and our responsibility is to preserve its beauty. Learning Welsh enhances our career prospects and enables us to engage and communicate with our local community.

Mental health is crucial to our overall well-being. If elected, I would raise awareness and work to ensure that most schools have mental health services like support programs or access to someone to talk to.

I am also a salient member of my school's core leadership team!
VOTE FOR ME!

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n frwd dros wella addysg, hybu’r Gymraeg, ac eiriol dros well gwasanaethau iechyd meddwl!

Mae addysg yn hanfodol i fywyd pob plentyn. Fel aelod, byddwn i’n gweithio i ddarparu cyfleoedd i holl ddisgyblion Cymru fel eu hysbysu am bethau fel tanysgrifiadau i gylchgronau IAW a threfnu cystadlaethau traethodau. Byddwn hefyd yn ymdrechu i greu cyfleoedd arweinyddiaeth, darparu gwybodaeth amdanyn nhw i ddisgyblion ysgol, a gadael i ddisgyblion gael dweud eu dweud ym mhenderfyniadau ysgol.

Mae’r Gymraeg yn hanfodol i’n diwylliant, a’n cyfrifoldeb ni yw cadw ei harddwch. Mae dysgu Cymraeg yn gwella ein rhagolygon gyrfa ac yn ein galluogi i ymwneud a chyfathrebu â’n cymuned leol.

Mae iechyd meddwl yn hanfodol i’n lles cyffredinol. Os caf fy ethol, byddwn yn codi ymwybyddiaeth ac yn gweithio i sicrhau bod gan y rhan fwyaf o ysgolion wasanaethau iechyd meddwl fel rhaglenni cymorth neu fynediad at rywun i siarad â nhw.

Dw i hefyd yn aelod amlwg o dîm arwain craidd fy ysgol!
PLEIDLEISIWCH DROSTA I!