Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Mikaeel Moulani
Youth Legislative Power/Grym Deddfwriaethol Ieuenctid
Youth Poverty/Grym Ieuenctid
Education/Addysg
Almost a third of young people in Cymru live in poverty, 1/8 of young people suffer with mental health issues and we live in a rampant cost of living crisis, preventing young people from achieving their dreams. These are some of a few issues facing Cymru. When will enough be enough?
I've had enough, and it's time to make a change. My name is Mikaeel Moulani, and I am standing in Cardiff Central for Welsh Youth Parliament.
The issues young people face are being ignored by our politicians: my main goal for this election is to give young people the power to directly rule on the issues which affect us, using WYP.
It's possible! As your representative in WYP, I would use my experience as Chair of Cardiff Youth Council to navigate the various institutions, to give young people the power to fight the issues we face.
I've been in many roles in youth politics in the last few years, but this will be my biggest challenge yet. Help me overcome it: vote Mik this November.
Mae bron i draean o bobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi, mae 1/8 o bobl ifanc yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ac rydyn ni’n byw mewn argyfwng costau byw rhemp, gan atal pobl ifanc rhag gwireddu eu breuddwydion. Dyma rai o’r ychydig faterion sy’n wynebu Cymru. Pryd fydd digon yn ddigon?
Dw i wedi cael digon, ac mae'n bryd gwneud newid. Fy enw i yw Mikaeel Moulani, a dw i’n ymgeisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn cynrychioli Caerdydd Canolog.
Mae'r materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn cael eu hanwybyddu gan ein gwleidyddion. Fy mhrif nod ar gyfer yr etholiad hwn yw rhoi'r grym i bobl ifanc reoli'n uniongyrchol ar y materion sy'n effeithio arnon ni, gan ddefnyddio SIC.
Mae'n bosib! Fel eich cynrychiolydd yn SIC, byddwn yn defnyddio fy mhrofiad fel Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Caerdydd i lywio’r gwahanol sefydliadau, i roi’r grym i bobl ifanc frwydro yn erbyn y materion sy’n ein hwynebu.
Dw i wedi bod mewn sawl rôl yng ngwleidyddiaeth ieuenctid dros y blynyddoedd diwethaf, ond dyma fydd fy her fwyaf eto. Helpwch fi i'w goresgyn: pleidleisiwch dros Mik ym mis Tachwedd eleni.