Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Eva Hurley-Williams

Mater o Bwys 1

Promoting good mental health/Hybu iechyd meddwl da

Mater o Bwys 2

Diverse education/Addysg amrywiol

Mater o Bwys 3

Welsh language and culture/Iaith a diwylliant Cymru

CANDIDATE STATEMENT

My name is Eva, I am 13 years old and passionate about making Wales a better place for all that live here. I am eager to make everyone in Wales feel safe, not judged and always have a secure place to go. I am a great communicator; for example, I am a member of debate club, book club and an educational group called scholars. I have also recently got a lead part in a Shakespeare play which I'll be performing in front of schools across Wales. Furthermore, my friend and I set up and run a music appreciation club for all ages in my school at Friday lunch time.

I want to help the youth in my area by helping them to find their voices and making sure every child is heard. I aim to do this by talking to my peers in my school and local area to make sure their opinions are listened to and passed on. I am a passionate and articulate person and have been recently developing my public speaking skills. I don't want to sit on the sidelines of life. I would like to join in and make a real difference.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Eva, dw i’n 13 oed ac yn angerddol am wneud Cymru yn lle gwell i bawb sy’n byw yma. Dw i’n awyddus i wneud i bawb yng Nghymru deimlo’n ddiogel, heb eu barnu a bod ganddyn nhw le diogel i fynd bob amser. Dw i’n gyfathrebwr gwych; er enghraifft, dw i’n aelod o glwb dadlau, clwb llyfrau a grŵp addysgol o'r enw Scholars. Dw i hefyd wedi cael rhan arweiniol yn ddiweddar mewn drama Shakespeare y byddaf yn ei pherfformio o flaen ysgolion ledled Cymru. At hynny, mae fy ffrind a minnau wedi sefydlu a rhedeg clwb gwerthfawrogi cerddoriaeth i blant o bob oedran yn fy ysgol sy’n cael ei gynnal amser cinio dydd Gwener.

Dw i am helpu’r ieuenctid yn fy ardal drwy eu helpu i ddod o hyd i’w lleisiau a gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael ei glywed. Dw i’n bwriadu gwneud hyn drwy siarad â’m cyfoedion yn fy ysgol a’m hardal leol i wneud yn siŵr bod eu barn yn cael ei chlywed a’i throsglwyddo. Dw i’n berson angerddol a chroyw ac wedi bod yn datblygu fy sgiliau siarad cyhoeddus yn ddiweddar. Dydw i ddim eisiau eistedd ar ymylon bywyd. Hoffwn ymuno a gwneud gwahaniaeth go iawn.