Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Noa Bennett

Mater o Bwys 1

Tourism/Twristiaeth

Mater o Bwys 2

Environment/Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Education/Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

Hello, my name is Noa Bennett and I have decided to apply for the Welsh Youth Parliament in order to have the opinions of the youth generations heard. Yes this can be done anywhere, but Youth Parliament is where action happens and takes place. People should vote for me because if I promise something, I stick to my promise, I will NOT ever go back on my word and I will do anything in my power to complete my chosen path. It is fundamental also that someone has experience in certain fields to go for Parliament, my experience is expressed by having over 4 years in School Councils and being involved in every sub group that has any impact over the rest of my time in education. I'm massively into politics and have a fair range of political knowledge. Also I have volunteered in charities such as Children in Wales that focuses on the UNCRC. Finally having over 8 years in Scouting has given me a passion for public speaking, working with others and empowering the youth voice.

DATGANIAD YMGEISYDD

Helô, fy enw i yw Noa Bennett a dw i wedi penderfynu ymgeisio i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn cael clywed barn pobl ifanc. Yn sicr, mae modd gwneud hyn yn unrhyw le, ond y Senedd Ieuenctid yw lle mae gweithredu'n digwydd. Dylai pobl bleidleisio drosta i oherwydd os byddaf yn addo rhywbeth, dw i’n cadw at fy ngair. Fydda i BYTH yn torri addewid a byddaf yn gwneud unrhyw beth yn fy ngallu i gwblhau fy llwybr dewisol. Mae’n sylfaenol hefyd fod gan rywun brofiad mewn rhai meysydd i sefyll i gael ei ethol ar gyfer y Senedd. Mae gen i dros bedair blynedd o brofiad o fod ar Gynghorau Ysgol a bod yn rhan o bob is-grŵp sy’n cael unrhyw effaith dros weddill fy amser ym myd addysg. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth ac mae gen i’r ystod deg o wybodaeth wleidyddol. Dw i hefyd wedi gwirfoddoli mewn elusennau fel Plant yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar y CCUHP. Yn olaf, mae bod â thros wyth mlynedd o brofiad mewn Sgowtio wedi rhoi angerdd i mi siarad yn gyhoeddus, gweithio gydag eraill a grymuso llais yr ifanc.