Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Emme Lewis

Mater o Bwys 1

Education about rights / Addysg am Hawliau

Mater o Bwys 2

Anti-social behaviour / Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mater o Bwys 3

Mental health services / Gwasanaethau iechyd meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

Joining the Welsh youth parliament will offer me an opportunity to give everyone a voice no matter what. I love helping people, it's in my blood and I believe I can make positive changes for young people in Wales! As a member I will make sure you are heard and your concerns are acted upon. You can consult with me via in-person or email/DM's and I will strive to make sure you're represented. I'm a very committed, inspiring, creative and hard working person and I am eager to make Wales a better place with mine and my peers ideas. I am proud to be a part of the girl guides association and the skills I have learned from being a ranger and leader will help me in the Youth Parliament. I am very passionate about young people’s mental health and I will do my best to make sure that Wales is a positive place for young people like myself. Finally, you should vote for me because I care. I care about you and Wales and I hope I can make Cymru a better place.

DATGANIAD YMGEISYDD

Bydd ymuno â Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnig cyfle i mi roi llais i bawb ni waeth beth. Dw i wrth fy modd yn helpu pobl, mae e yn fy ngwaed a dw i’n credu y galla i wneud newidiadau cadarnhaol i bobl ifanc yng Nghymru! Fel aelod, bydda i’n sicrhau eich bod chi’n cael eich clywed a bod camau’n cael eu cymryd ar gyfer eich pryderon. Gallwch chi siarad â fi wyneb yn wyneb neu drwy e-bost/negeseuon uniongyrchol a bydda i'n ymdrechu i sicrhau eich bod chi’n cael eich cynrychioli. Dw i’n ymroddedig iawn, yn ysbrydoli ac yn gweithio’n galed a dw i’n awyddus i wneud Cymru yn lle gwell gyda fy syniadau i a syniadau fy nghyfoedion. Dw i’n falch o fod yn rhan o gymdeithas y geidiaid a bydd y sgiliau dw i wedi’u dysgu o fod yn dywysydd ac yn arweinydd yn fy helpu yn fy nghyfnod yn y senedd ieuenctid. Yn olaf, dylech chi bleidleisio drosof i oherwydd fy mod i’n hidio. Dw i'n hidio amdanoch chi a Chymru a dw i’n gobeithio y galla i wneud Cymru yn lle gwell.