Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Ellie O'Connell

Mater o Bwys 1

Equality for all / Cydraddoldeb i bawb

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Welsh Language and Culture / Y Gymraeg a Diwylliant Cymru

DATGANIAD YMGEISYDD

Politics has always been a huge part of my life. As a disabled person and a member of the LGBTQ+ community, I have always strived for equality and change for all. I want to be a Welsh Youth Parliament member so as I can advocate for and be a part in making this change. As a Welsh speaker with a passion for the language and Welsh culture, I believe it is vital that we continue to teach both of these to the next generation, and all of the generations after that. I believe that I would make a good member of the Welsh Youth Parliament as I am passionate, dedicated, and hard working. I have already served Bridgend County Borough Council as Youth Mayor for a year and a half, as well as being Chairperson of my School Council. I will continue to outreach to young people within Bridgend County Borough through the Youth Council, as well as working to create new ways in which young people can have their say.

DATGANIAD YMGEISYDD

Mae gwleidyddiaeth wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd erioed. Fel person anabl ac aelod o’r gymuned LHDTQ+, dw i bob amser wedi ceisio sicrhau cydraddoldeb a newid i bawb. Dw i eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru fel bod modd i mi eirioli a bod yn rhan o’r newid. Fel siaradwr Cymraeg sy’n angerddol dros yr iaith a diwylliant Cymru, dw i’n credu ei bod hi’n hanfodol i ni barhau i ddysgu’r rhain i’r genhedlaeth nesaf, a chenedlaethau eraill wedi hynny. Dw i’n credu y bydden i’n aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n angerddol, ymroddgar a gweithgar. Dw i wedi bod yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o’r blaen fel Maer Ieuenctid am flwyddyn a hanner, ac yn Gadeirydd y Cyngor Ysgol. Dw i’n mynd i barhau i gysylltu â phobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy’r Cyngor Ieuenctid, a gweithio ar greu ffyrdd newydd lle gall pobl ifanc ddweud eu dweud.