Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Maya Petter

Mater o Bwys 1

Music studies in education / Astudiaethau cerddoriaeth mewn addysg

Mater o Bwys 2

Access to healthcare / Mynediad i ofal iechyd

Mater o Bwys 3

Diversifying sports in schools / Amrywio chwaraeon mewn ysgolion

DATGANIAD YMGEISYDD

There are many reasons why I believe that I would be an excellent addition to the welsh youth parliament. Firstly, I am educated on politics and have taken politics as one of my a levels.I have been fascinated by politics for a long time and how the systems work. I am also a very hard worker and don’t give up even in the face of adversity. This is shown through my 10+ years of doing karate and reaching 2nd Dan black belt. I am also an instructor which means I have been able to develop skills which I believe would be useful outside of karate. I believe that I would be able to make a real change for young people in wales.
I think a good way to communicate with young people in my area would be through social media. Many young people would be too busy with school and many feel more comfortable online . Through this I would be able to listen to people’s opinions and take them into consideration. I would try to make sure that everyone’s ideas would be heard and taken seriously.

DATGANIAD YMGEISYDD

Mae llawer o resymau pam dw i’n credu y bydden i’n ychwanegiad gwych i Senedd Ieuenctid Cymru. Yn gyntaf, dw i’n deall gwleidyddiaeth ac yn astudio gwleidyddiaeth ar Lefel A. Mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ers tro byd, yn ogystal â sut mae’r systemau’n gweithio. Dw i hefyd yn gweithio’n galed, a dw i byth yn rhoi’r gorau iddi er gwaethaf trafferthion. Mae hyn yn amlwg o fy 10+ mlynedd yn gwneud karate a chyrraedd belt du 2il Dan. Dw i hefyd yn hyfforddwr sy’n golygu fy mod i wedi gallu datblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol i mi y tu allan i karate. Dw i’n credu y bydden i’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc yng Nghymru.
Dw i’n meddwl y bydd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o gyfathrebu gyda phobl ifanc yn fy ardal. Byddai llawer o bobl ifanc yn rhy brysur gydag ysgol, ac yn teimlo’n fwy cyfforddus ar-lein. Drwy hyn, bydden i’n gallu gwrando ar farn pobl a’i hystyried. Bydden i’n ceisio gwneud yn siŵr bod syniadau pawb yn cael eu clywed a’u cymryd o ddifri.