Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Improve Mental Health Services/Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Reducing our carbon footprint/Lleihau ein hôl troed carbon

Mater o Bwys 3

Education for the future/Addysg i'r dyfodol

DATGANIAD YMGEISYDD

I am a 14-year-old non-binary autistic kid, who has strong ideas about my local community. I am a young carer, male mental health ambassador, and a member of the Powys Junior Start Well Board, as well as my school council.
My core values are equality, community, and having fun (Can't be a kid without that!)
I believe that people of all ages should be represented in parliament, and if elected I will lend an ear to those around me, and try to ensure that their voices are heard.
My main qualities are empathy, clear thinking, (does humour fit here?), and problem solving. I will use these qualities to understand the issues, and work hard to find solutions.
I want to use my experience to help make changes for the better of all in Wales.
I intend to improve mental health support and services for young people, reduce our national carbon footprint, and help schools prepare young people for the future.
Vote for me to see all the young people of Brecon and Radnorshire represented.

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i’n blentyn awtistig anneuaidd 14 oed, sydd â syniadau cryf ar gyfer fy nghymuned leol. Dw i’n ofalwr ifanc, yn llysgennad iechyd meddwl dynion, ac yn aelod o Fwrdd Dechrau Da Iau Powys, yn ogystal â’m cyngor ysgol.
Fy ngwerthoedd craidd yw cydraddoldeb, cymuned, a chael hwyl (Dydych chi ddim yn blentyn heb hynny!)
Credaf y dylai pobl o bob oed gael eu cynrychioli yn y Senedd, ac os caf fy ethol, byddaf yn rhoi clust i wrando ar y rhai o’m cwmpas, ac yn ceisio sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Fy mhrif rinweddau yw empathi, meddwl yn glir (a yw hiwmor yn ffitio yma?), a datrys problemau. Byddaf yn defnyddio'r rhinweddau hyn i ddeall y problemau, ac yn gweithio'n galed i ddod o hyd i atebion.
Dw i am ddefnyddio fy mhrofiad i helpu i wneud newidiadau er gwell i bawb yng Nghymru.
Dw i’n bwriadu gwella cymorth a gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc, lleihau ein hôl troed carbon cenedlaethol, a helpu ysgolion i baratoi pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
Pleidleisiwch drosta i i weld holl bobl ifanc Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cael eu cynrychioli.