Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Amelia Kathleen Sivertsen

Mater o Bwys 1

The Environment / Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 2

The Welsh Language / Yr Iaith Gymraeg

Mater o Bwys 3

Education / Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

Hi, I’m Amelia and I am running for the Youth Parliament. I would like to be a Youth Parliament Member as I have a great interest in politics and the making sure the voices of Welsh youths are heard. I am also a NPT youth council member and a young ambassador for Ash Wales meaning I have experience and knowledge in similar fields. I will be able consult people in my local area through School and it’s sixform, extracurriculars and in the NPT youth council. I speak Welsh, therefore I can represent more people and their voice. I’m skilled in debating and have won many group and individual competitions, showing my passion for public speaking and my teamwork skills. I’m confident, committed, forward-thinking and ready to make a change in politics especially for the environment, the Welsh language and in education. You should vote for me if you want to see a young woman thrive in politics and if you want to see a real change in the way youths' opinions are valued. I’ll make your voice heard.

DATGANIAD YMGEISYDD

Helô, Amelia ydw i a dw i’n sefyll i gael fy ethol i’r Senedd Ieuenctid. Hoffwn fod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth a dw i am sicrhau bod lleisiau ieuenctid Cymru yn cael eu clywed. Dw i hefyd yn aelod o gyngor ieuenctid CNPT ac yn llysgennad ifanc i Ash Cymru sy'n golygu bod gen i brofiad a gwybodaeth mewn meysydd tebyg. Byddaf yn gallu ymgynghori â phobl yn fy ardal leol drwy'r ysgol a'r chweched dosbarth, gweithgareddau allgyrsiol ac yng nghyngor ieuenctid CNPT. Dw i’n siarad Cymraeg, felly gallaf gynrychioli mwy o bobl a'u lleisiau. Dw i’n fedrus mewn dadlau ac wedi ennill llawer o gystadlaethau grŵp ac unigol, gan ddangos fy angerdd dros siarad yn gyhoeddus a’m sgiliau gwaith tîm. Dw i’n hyderus, yn ymroddedig, yn meddwl yn flaengar ac yn barod i wneud newid mewn gwleidyddiaeth – yn enwedig ar gyfer yr amgylchedd, y Gymraeg ac addysg. Dylech bleidleisio drosta i os hoffech chi weld menyw ifanc yn ffynnu mewn gwleidyddiaeth ac os hoffech chi weld newid go iawn yn y ffordd y caiff barn pobl ifanc ei gwerthfawrogi. Byddaf yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.