Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Affordable rural housing/Tai Fforddiadwy yng Nghefn Gwlad

Mater o Bwys 2

Pylons and renewable energy/Peilonau ac Ynni Adnewyddadwy

Mater o Bwys 3

Family hospital facilities/Cyfleusterau Ysbyty Teuluol

DATGANIAD YMGEISYDD

A representative came to my school and spoke about the Senedd Youth Parliament programme. I really liked how she spoke about the power to change things and that we could be heard. I am active in my area through being a member of my local Young Farmers Club. Through that, I have a network of different friends from various schools.

I am also on social media and have been campaigning in my local area on issues including the proposed pylons through my valley through door to door knocking. I like meeting people in real life more than online. I like to talk but I am also a good listener and, when I get onto a something that matters, I am onto it.

I have always been interested in representing people, and have been on my School Council, first when I was in Blwyddyn 1, and represented Brecknock YFC at national level in Stafford Showground. I enjoy public speaking and my dream job is to work in marketing. I am passionate about local causes and was inspired by the representative to apply.

DATGANIAD YMGEISYDD

Daeth cynrychiolydd i fy ysgol a siarad am raglen y Senedd Ieuenctid. Roeddwn i'n hoff iawn o'r ffordd y siaradodd hi am y pŵer i newid pethau a bod modd i ni gael ein clywed. Dw i’n weithgar yn fy ardal drwy fod yn aelod o'm Clwb Ffermwyr Ifanc lleol. Trwy hynny, mae gen i rwydwaith o amrywiol ffrindiau o wahanol ysgolion.

Dw i hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedi bod yn ymgyrchu yn fy ardal leol ar faterion gan gynnwys y peilonau arfaethedig yn fy nghwm trwy gnocio o ddrws i ddrws. Dw i’n hoffi cwrdd â phobl mewn bywyd go iawn yn fwy nag ar-lein. Dw i’n hoffi siarad ond dw i hefyd yn wrandäwr da a, phan fyddaf yn ymgymryd â rhywbeth sy'n bwysig, dw i’n delio ag ef.

Dw i bob amser wedi bod â diddordeb mewn cynrychioli pobl, ac wedi bod ar fy Nghyngor Ysgol ers pan oeddwn ym Mlwyddyn 1. Dw i hefyd wedi cynrychioli CFfI Brycheiniog ar lefel genedlaethol ar Faes y Sioe yn Stafford. Dw i’n mwynhau siarad cyhoeddus a’m swydd ddelfrydol yw gweithio ym maes marchnata. Dw i’n angerddol am achosion lleol a chefais fy ysbrydoli gan y cynrychiolydd i wneud cais am y rôl hon.