Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Education/Addysg

Mater o Bwys 2

Environment/Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Mental health service/Gwasanaethau Iechyd Meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

Hello, my name is Evie Jennings.
I believe I will be a suitable candidate for the youth parliament because I am not afraid of speaking my opinions in front of others, I will listen to my peers and always put there needs and ideas first. My first issue is that the beaches around wales are littered with rappers, bottles and other harmful plastics and metals that are harming the beautiful wildlife. My second issue is that the education system in wales is a problem, students like me are being put through stressful situations that we have no control over, being bullied, not having access to required equipment and much more. This brings me onto my final issue, as a twelve year old in the modern education system I know many people who struggle with mental illness issues and who find it difficult to concentrate in everyday activities.
These are only a few of the issues in life today and it would be an honour to be a part of the solution.

DATGANIAD YMGEISYDD

Helô, fy enw i yw Evie Jennings.
Dw i’n credu y byddaf yn ymgeisydd addas ar gyfer y Senedd Ieuenctid oherwydd does arna i ddim ofn lleisio fy marn o flaen eraill. Byddaf yn gwrando ar fy nghyfoedion a byddaf bob amser yn rhoi eu hanghenion a’u syniadau yn gyntaf. Fy mater cyntaf yw bod y traethau o amgylch Cymru yn frith o bapurau losin, poteli a phlastigau a metelau niweidiol eraill sy'n niweidio'r bywyd gwyllt hardd. Fy ail fater yw bod y system addysg yng Nghymru yn broblem. Mae myfyrwyr fel fi yn cael eu rhoi trwy sefyllfaoedd dirdynnol nad oes gennym ni unrhyw reolaeth drostyn nhw, rydyn ni’n cael ein bwlio a dydyn ni ddim yn cael mynediad at yr offer angenrheidiol a llawer mwy. Mae hyn yn dod â fi at fy mater olaf, ac fel merch 12 oed yn y system addysg fodern, dw i’n nabod llawer o bobl sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl ac sy'n ei chael hi'n anodd canolbwyntio ar weithgareddau bob dydd.
Dim ond ychydig o'r materion mewn bywyd fel y mae heddiw yw'r rhain a byddai'n anrhydedd bod yn rhan o'r ateb.