Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Mental Health Support/Cymorth Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Environmental Issues/Materion Amgylcheddol

Mater o Bwys 3

Public Transport/Trafnidiaeth Gyhoeddus

DATGANIAD YMGEISYDD

Mental Health affects our relationship with ourselves, the environment can transform our futures and public transport can limit what we can experience. I believe these key issues need highlighting within Wales. All of these are our responsibility. Our futures to change. I believe we can use the power of our voice to shape the way the Senedd deals with these. As a former member of Qualifications Wales Advisory Group and member of DofE Wales Youth, I have already discussed key issues within Wales. Through this I communicated, team worked and evaluated to come up with better solutions within our qualification system since we are the ones affected by the changes made. I will ensure to consult to a variety of schools, events in our area to guarantee that everyone’s voice is heard. I believe you should vote for me as I will have no fear to voice my opinion whilst also educating myself on the opinions and experiences of every young person. I will ensure that we will not be silenced.

DATGANIAD YMGEISYDD

Mae Iechyd Meddwl yn effeithio ar ein perthynas â ni ein hunain. Gall yr amgylchedd drawsnewid ein dyfodol a gall trafnidiaeth gyhoeddus gyfyngu ar yr hyn y gallwn ei brofi. Credaf fod angen tynnu sylw at y materion allweddol hyn yng Nghymru. Ein cyfrifoldeb ni yw pob un o'r rhain, er mwyn sicrhau newid ar gyfer ein dyfodol. Dw i’n credu y gallwn ddefnyddio grym ein llais i lywio’r ffordd y mae’r Senedd yn ymdrin â’r rhain. Fel cyn-aelod o Grŵp Cynghori Cymwysterau Cymru ac aelod o Ieuenctid Gwobr Dug Caeredin Cymru, dw i eisoes wedi trafod materion allweddol yng Nghymru. Drwy hyn fe wnes i gyfathrebu, gweithio mewn tîm a gwerthuso i ddod o hyd i atebion gwell o fewn ein system gymwysterau gan mai ni yw'r rhai y mae'r newidiadau a wnaed yn effeithio arnyn nhw. Byddaf yn sicrhau fy mod i’n ymgynghori ag amrywiaeth o ysgolion a digwyddiadau yn ein hardal i sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Credaf y dylech bleidleisio drosta i gan na fydd arnaf ofn i leisio fy marn wrth hefyd addysgu fy hun ar farn a phrofiadau pob person ifanc. Byddaf yn sicrhau na fyddwn yn cael ein tawelu.