Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Mater o Bwys 1

Education/Addysg

Mater o Bwys 2

Health care/Gofal Iechyd

Mater o Bwys 3

Farming/Ffermio

DATGANIAD YMGEISYDD

As a young learner myself, the thoughts and opinions of young people are just as important as elders, we should live in a world where everyone's opinions get valued.
Living in a small area where not much gets noticed or said, we live on the outskirts of Wales where decisions made from Cardiff happen even if you live hours away. By becoming a Youth Parliament Member, I would encourage more people to speak up in my area. This would widen the opportunities available here in Powys and perhaps get recognition that it's not just the people from cities with a voice. Not only this, but I as myself would love to get my issues with Wales across and to work with people to make the warm heart of wales a well thought of country as it should be.
Only recently, I have had time working with Powys County Council. Here I discovered many issues that we face in the future and how to achieve the goal of improvement. I've had years of being on stage with the Urdd and frequently do public speaking with YFC.

DATGANIAD YMGEISYDD

Fel disgybl ifanc fy hun, mae safbwyntiau a barn pobl ifanc yr un mor bwysig â rhai pobl hŷn. Dylen ni fyw mewn byd lle mae barn pawb yn cael ei gwerthfawrogi.
Wrth fyw mewn ardal fach lle does dim llawer yn cael ei sylwi na’i ddweud, rydyn ni’n byw ar gyrion Cymru lle mae penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghaerdydd yn digwydd hyd yn oed os ydych chi’n byw oriau i ffwrdd. Drwy ddod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid, byddwn yn annog mwy o bobl i godi llais yn fy ardal. Byddai hyn yn ehangu'r cyfleoedd sydd ar gael yma ym Mhowys ac efallai'n cael cydnabyddiaeth nad y bobl o ddinasoedd sydd â llais yn unig. Nid yn unig hyn, ond byddwn i fel fy hun wrth fy modd yn cyfleu fy mhroblemau gyda Chymru a gweithio gyda phobl i wneud canolbarth Cymru yn wlad ac iddi enw da fel y dylai fod.

Dim ond yn ddiweddar, dw i wedi cael amser yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys. Yma, fe wnes i ddarganfod llawer o faterion sy'n ein hwynebu yn y dyfodol a sut i gyrraedd y nod o wella. Dw i wedi cael blynyddoedd o fod ar lwyfan gyda'r Urdd ac yn aml yn siarad yn gyhoeddus gyda mudiad y Clybiau Ffermwyr Ifanc.