Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Chase Campbell

Mater o Bwys 1

Economic development / Datblygu Economaidd

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Transport / Trafnidiaeth

CANDIDATE STATEMENT

Growing up in a run down area, I see everyday the affects that government decisions have on the poorest of us, the ones with no voice. I want to change that by voicing my key issues & yours. I want to be a voice for the poorest part of Wales (the valleys) and enact positive change for all of us.

You should vote for me as I will ensure that everyone is heard, heard from every belief and point of view., not just my own, as I know i speak for the youth of my Blaenau Gwent.

I have also been vocal and political my entire life, angered by the deprivation that surrounds us here. So I know what I'm doing. I have experience in debate clubs, aced school speeches, am known to approachable & outgoing and meet people from all walks of life from my work at race tracks & in cafes, so i know how to listen to you.

I would represent the young people from Tredegar to Llanhilleth, the way that you want to be represented, voicing our beliefs and thoughts to enact real change.
VoteChase BeHeard SeeChange

DATGANIAD YMGEISYDD

Drwy dyfu i fyny mewn ardal difreintiedig, rydw i’n gweld effeithiau penderfyniadau’r llywodraeth ar y bobl dlotaf, y rhai heb lais. Dw i eisiau newid hynny drwy leisio fy materion allweddol i a chi. Dw i eisiau bod yn llais dros rannau tlotaf Cymru (y Cymoedd) a gweithredu newid positif i bob un ohonom. Dylech bleidleisio drosof fi oherwydd byddaf yn gwneud yn siŵr bod llais pawb yn cael ei glywed, o bob cred a safbwynt, nid yn unig fy un i, oherwydd rydw i’n siarad dros ieuenctid Blaenau Gwent. Rydw i hefyd wedi bod yn barod i leisio barn ac yn wleidyddol drwy fy mywyd, ac yn ddig o weld yr amddifadedd o’n cwmpas fan hyn. Dw i’n gwybod beth dw i’n ei wneud. Mae gen i brofiad mewn clybiau dadlau, wedi gwneud yn dda iawn mewn areithiau ysgol, mae pobl yn gwybod ei bod hi’n hawdd dod ataf fi ac wedi cwrdd â phob math o bobl yn fy ngwaith mewn traciau rasio a chaffis, felly dw i’n gwybod sut i wrando arnoch chi. Bydden i’n cynrychioli’r bobl ifanc o Dredegar i Lanhiledd, y ffordd rydych chi eisiau cael eich cynrychioli, yn lleisio ein credoau a’n meddyliau i weithredu newid go iawn. Pleidleisiwch Chase. Cael eich Clywed. Gweld y Newid.